fbpx
BBC NOW Bartok’s Concerto for Orchestra
10 Mai

‘Achosion Annaturiol’

Dewch i gwrdd â’r patholegydd fforensig, Dr Richard Shepherd, ditectif yn ei rinwedd ei hun, sydd wedi datrys dirgelwch marwolaethau sydyn ac anesboniadwy, wrth iddo fynd ar daith yn 2022, yn dilyn ei daith theatr hynod lwyddiannus yn 2021. Mae Dr Shepherd wedi perfformio dros 23,000 o awtopsiâu, gan gynnwys rhai o achosion amlycaf y cyfnod diweddar; Cyflafan Hungerford, yr ymchwiliad i farwolaeth y Dywysoges Diana a 9/11. Mae e’ wedi wynebu lladdwyr lluosog, trychineb naturiol, ‘llofruddion perffaith’ a damweiniau anghyffredin. Mae ei dystiolaeth wedi arwain at garcharu llofruddion, rhyddhau’r dieuog a gwrthdroi achosion sy’n ymddangos eu bod yn hawdd eu datrys. Ac eto mae hyn wedi golygu cost bersonol anferth iddo. Ymunwch â Dr Richard Shepherd am noson sy’n addo bod yn gwbl gyfareddol. Bydd ‘Achosion Annaturiol’ yn adrodd straeon yr achosion a’r cyrff sydd wedi poeni Doctor Shepherd fwyaf, ond hefyd sut i fyw bywyd sydd wedi’i drwytho mewn marwolaeth.

Rhai adolygiadau o’i lyfr arobryn.

‘A deeply mesmerising memoir of forensic pathology. Human and fascinating’ - Nigella Lawson

‘Gripping, grimly fascinating, and I suspect I’ll read it at least twice’ Evening Standard

‘Fascinating, gruesome yet engrossing’ Richard and Judy, Daily Express

‘Heart-wrenchingly honest’ Professor Sue Black, author of All That Remains

‘Fascinating, insightful, candid, compassionate’ Observer

‘One of the most fascinating books I have read in a long time. Engrossing, a haunting page-turner. A book I could not put down’ The Times

Included in The Times Books of the Year

Dyddiad
22 HYD 2022
Lleoliad
Swansea Grand Theatre
Price
27.00