fbpx
Sioe Awyr Cymru 6 & 7 Gorffennaf 2024
Gweld Mwy

Sioe anthemau diwedd y nos

Paratowch i ganu nerth esgyrn eich pen wrth i’r sioe drawiadol sy’n cynnwys y goreuon o anthemau diwedd nos gyrraedd y ddinas.

Y naill ffordd na’r llall, fydd dim byd yn ein hatal nawr. Mae’r sioe hwyliog newydd sbon hon yn sicrhau noson wyllt o ffefrynnau di-baid i gyd-ganu â nhw.

Dyma’r noson mas rydych wedi bod yn aros amdani – gan gynhyrchwyr y sioe ysgubol, Lost in Music – mae’r merched â’r bechgyn yn ôl.

A’r tro yma, yn fyw ar y llwyfan, maen nhw’n rhoi bywyd newydd i gerddoriaeth Bryan Adams, Blondie, Cher, Rainbow, Bon Jovi, Kate Bush, Starship, Europe a Belinda Carlisle…i enwi rhai yn unig!

Mae’r cynhyrchiad theatr trydanol, egnïol hwn yn cyflwyno 30 o’r anthemau diwedd nos mwyaf i chi, a’r cyfan yn dod yn fyw mewn lliw llawn gyda chast gwefreiddiol, gwisgoedd trawiadol a sioe oleuadau anhygoel.

Mae’n amser i chi ymlacio a gwisgo’ch dillad gorau wrth i ni gyflwyno’r caneuon parti roc gorau ERIOED!

Gyda chaneuon sy’n cynnwys Summer of ’69, I Love Rock ‘n’ Roll, Eye of the Tiger, Livin’ on a Prayer, Sweet Child O’ Mine, China in Your Hand, You Shook Me All Night Long, Sweet Home Alabama a llawer mwy.

Mae’r sioe anthemau diwedd nos newydd ar gyfer 2023 yn mynd ar daith o gwmpas y wlad, felly paratowch amdani! Tocynnau ar werth nawr!

Cyflwynir i chi gan The Entertainers I bobl sy’n dwlu ar sioeau gan bobl sy’n dwlu ar sioeau

Cartref i rai o gynyrchiadau gorau’r wlad gan gynnwys The Magic of Motown, Fastlove, Lost in Music, Radio GaGa, Thank you for the Music, The Rocket Man a llawer mwy.

Sioe deyrnged yw hon ac nid yw’n gysylltiedig mewn unrhyw ffordd ag unrhyw artistiaid gwreiddiol/ystadau/gwmnïau rheoli neu sioeau tebyg. Mae gan yr hyrwyddwr yr hawl i newid y rhaglen.

 

Archebwch Docynnau

Dyddiad
15 CHWE 2024
Lleoliad
Theatr Y Grand Abertawe
Price
31.00