Stori ysbrydion drwy brofiad, yn annhebyg i unrhyw beth rydych chi erioed wedi’i brofi o’r blaen
Croeso i noson gythryblus yn y theatr. Ydych chi’n teimlo’n ddewr?
Os ydych, ymunwch â ni a byddwn yn datgelu’r holl gyfrinachau ynghylch yr hyn sy’n digwydd pan fydd y theatr mewn tywyllwch. A’r unig beth i’ch arwain yw Golau’r Ysbryd. I gadw ysbrydion maleisus draw – neu efallai i oleuo’r ffordd ar gyfer yr ysbrydion sy’n trigo yno.
Dilynwch y rheolau: cadwch eich dwylo y tu mewn i’r car (fel petai) er mwyn i chi fod yn ddiogel, wrth i ni adrodd y straeon sydd gan bob theatr i’w hadrodd.
Straeon bwganllyd am bethau sy’n gwneud twrw gefn nos, neu yn y dydd.
Y pethau nad ydynt yn gwneud synnwyr – neu ydyn nhw?
Straeon sy’n aros yn y cof, neu yr hoffech eu hanghofio.
Byddwn yn codi’r blew ar eich breichiau ac yn anfon ias o ofn i lawr eich cefn. . .
Ymunwch â ni am noson dywyll. Ydych chi’n barod i fentro?
Do You Believe in Ghosts?
Ar gyfer grŵp oedran 12+
Pris £32.00