fbpx
Sioe Awyr Cymru 6 & 7 Gorffennaf 2024
Gweld Mwy

Date/Time:
Date(s) – 08/07/2017 – 09/07/2017
11:00 am – 5:00 pm

Location: Swansea City Centre

Canol y Ddinas a Marina Abertawe

Mae Abertawe’n dathlu Diwrnodau Dawns 2017 gyda chymysgedd o berfformiadau dawns am ddim i bawb.

Dewch i fwynhau marathon o berfformiadau dawns yng nghanol y ddinas a Marina Abertawe ddydd Sadwrn 8 a dydd Sul 9 Gorffennaf mewn penwythnos am ddim yn llawn adloniant dawns. Canolfan Celfyddydau Taliesin sy’n gyfrifol am y digwyddiad lle bydd sêr dawns rhyngwladol o Abertawe a’r tu hwnt yn perfformio cymysgedd o ddawns fodern, stryd, syrcas a thraddodiadol yng Ngŵyl Ddawns Ryngwladol AM DDIM Abertawe – DIWRNODAU DAWNS.

Bydd Company Chameleon yn dychwelyd eleni gyda pherfformiad garw, ond sensitif, â chast o bum dyn yn Of Man and Beast.

Ceir cyfuniad o syrcas a theatr yn Shipwrecks; perfformiad newydd sbon gan Citrus Arts. Mae Kapow Dance ar goll ar y môr yn Adrift hefyd. Yn dilyn llongddrylliad, caiff dau eu taflu o un lle i’r llall wrth iddyn nhw wegian yn sigledig ar y dirwedd anrhagweladwy

Mae gŵyl eleni’n cynnwys y pâr doniol, Mr & Mrs Clark a fydd yn mynd â chi drwy ‘A Dummy’s Guide to Becoming a Successful Politician’ yn Electioneering a chadwch lygad am ddigon o hiwmor corfforol, helynt a chlychau priodas yn Gary & Pel’s Car Crash Wedding!

Ceir mwy o acrobateg ynghyd â breg-ddawns gyflym yn BOUNCE gan Theatr Ddawns Harnisch-Lacey. Mae tri gwyddonydd ecsentrig yn mynd ar daith i osgoi’r drychineb sydd ar ddod o ganlyniad i gynhesu byd-eang a lefelau môr cynyddol i ddod â bywyd newydd i fyd griddfanus. Byddant yn ymuno â pherfformwyr rheolaidd yr ŵyl, County Youth Dance Company, a llawer mwy.

Abertawe a Chanolfan Celfyddydau Taliesin oedd un o’r dinasoedd cyntaf yn y DU i ymuno â’r rhwydwaith byd-eang, Ciudades Que Danzan (Dinasoedd sy’n Dawnsio). Bob blwyddyn, mae dinasoedd o bedwar ban byd, o Rio de Janeiro i Barcelona, yn dathlu dawns mewn lleoedd annisgwyl.

Am holl fanylion perfformwyr Diwrnod Dawns Abertawe 2017, ewch i taliesinartscentre.co.uk/dancedays neu ffoniwch 01792 60 20 60.

 

Dyddiad
08-09 GOR
Lleoliad
Swansea City Centre