fbpx
Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2024
15 - 17 Mehefin

Dydd Mercher 2 Awst

Mae thema eleni, ‘Chwarae am y Nesaf Peth i Ddim’ yn canolbwyntio ar yr anturiaethau chwarae rhad neu am ddim y gall plant eu mwynhau gartref, mewn lleoliadau ac yn ein cymunedau. Yng Nghanolfan Dylan Thomas rydym yn dwlu ar chwarae creadigol, felly mae ein gweithgaredd ar gyfer Diwrnod Chwarae Cenedlaethol yn canolbwyntio ar bersonoliaeth hwyl Dylan a’i gerdd, ‘The Hunchback in the Park’, lle mae’n ysgrifennu am y basn dŵr lle’r oedd yn hwylio’i long. Bydd amrywiaeth o weithgareddau ar gael ar y safle ac oddi ar y safle; mae’r holl fanylion ar gael isod.

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, 10am – 2pm:

Byddwn yn cymryd rhan yn y prif ddigwyddiad Diwrnod Chwarae lle bydd ein tîm creadigol yn creu Cychod Dyfyniadau papur wedi’u hysbrydoli gan Dylan. Dewch i greu eich cwch eich hun gan ddefnyddio llu o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu. Ychwanegwch ychydig o nodweddion diddorol ac ewch i’w hwylio yn ein pwll chwarae! Pa mor dda fydd eich Cwch Dyfyniadau chi’n hwylio?

Canolfan Dylan Thomas, 10am – 4pm:

Yn chwilio am amser tawel oddi wrth prysurdeb y prif ddigwyddiad diwrnod chwarae?  Mae arddangosfa ryngweithiol am ddim Canolfan Dylan Thomas, ‘Dwlu ar y Geiriau’ ar agor rhwng 10am a 4.30pm ac mae’n addas i deuluoedd. Mae hefyd fagiau synhwyraidd am ddim ar gael i’w defnyddio fel rhan o’r arddangosfa – gofynnwch wrth y ddesg flaen. Mae holl staff yr arddangosfa wedi cael hyfforddiant ymwybyddiaeth o awtistiaeth ac addas i deuluoedd, a byddent wrth eu boddau yn eich croesawu i’n harddangosfa. Beth am gasglu pecyn chwarae creadigol am ddim o’n desg flaen? Mae’r pecyn yn cynnwys taflenni sy’n seiliedig ar thema a gweithgareddau i chi eu gwneud gartref.

Ar-lein:

Os na allwch ymuno â ni’n bersonol ar gyfer Diwrnod Chwarae Cenedlaethol, gallwch greu eich Cwch Dyfyniadau eich hun gartref! Dyma’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i greu eich cwch dyfyniadau eich hun – www.dylanthomas.com/cy/blog-cy/crewch-eich-cwch-dyfyniadau-eich-hun/. Mae hefyd gennym amrywiaeth eang o weithgareddau am ddim i’r teulu i chi eu mwynhau yma:www.dylanthomas.com/cy/gweithgareddau-a-lawrlwythiadau/

Dyddiad
02 AWS 2023
Lleoliad
Dylan Thomas Centre
Ffôn
01792463980
E-bost
dylanthomas.lit@swansea.gov.uk
Visit website