Dydd Llun 8 Mai, 11am tan 5pm
Mae Cyfeillion Castell Ystumllwynarth yn sefydliad gwirfoddol sy’n cefnogi Cyngor Abertawe drwy staffio a gofalu am yr heneb ragorol hon fel ei bod yn parhau ar agor i’r cyhoedd.
Hoffai’r Cyfeillion nodi’r diwrnod arbennig hwn drwy gynnig mynediad AM DDIM i wirfoddolwyr ymroddedig eraill sy’n gwneud cymaint i gadw’n gwasanaethau hanfodol i fynd a chyfoethogi’n bywydau yn ddyddiol.
Dewch â dogfen ID ddilys gyda chi sy’n dangos y sefydliad gwirfoddol rydych yn gweithio iddo.
Tâl mynediad arferol yn berthnasol.