fbpx
Sioe Awyr Cymru 6 & 7 Gorffennaf 2024
Gweld Mwy

Mae’r parti disco dros dro gyda cherddoriaeth y 70au, yr 80au a’r 90au, DISCOS FOR GROWN UPS, yn dod i leoliad hyfryd Neuadd Brangwyn, Abertawe nos Wener 26 Gorffennaf 2024.
Gwisgwch eich dillad pefriog am noson ddifyr o ddawnsio, gyda phobl eich oedran eich hun, i’ch holl hoff ganeuon disgo o’r 70au, pop o’r 80au a dawns o’r 90au.
Dawnsiwch drwy gydol y noson i’r holl glasuron disgo, pop a dawns rydych yn dwlu arnynt gan Donna Summer, Earth Wind and Fire, Chic, Sister Sledge, Odyssey, Chaka Khan, ABBA, Madonna, Robin S, Erasure, Bee Gees, Candi Staton, Faithless a llawer mwy.
Dawnsiwch dan sioe oleuadau a laserau anhygoel gyda’n dawnswyr llwyfan DISCOS FOR GROWN UPS dawnus.
Ffyn gloyw a losin ‘retro’ am ddim i bawb…
Côd gwisg – Glamor Disgo
Mae’n mynd i fod yn noson o ddawnsio i’w chofio!

MAE TOCYN VIP YN CYNNWYS
– UN TOCYN VIP
– MYNEDIAD VIP Â BLAENORIAETH. Byddwch yn mynd i mewn 15 munud cyn pawb arall ac yn cael y dewis cyntaf o unrhyw seddau (os ydynt ar gael). Mae mynediad VIP â blaenoriaeth o 7pm i 7.15pm.
– PECYN GLOYW AR GYFER DISGO. Goleuwch y disgo gyda’n pecyn gloyw VIP… mae’n cynnwys ffon loyw grog, baton sbwng sy’n fflachio a breichled wedi’i brandio â DFGUPS sy’n fflachio.
– BAND ARDDWRN AUR sy’n rhoi gostyngiad o 20% oddi ar holl nwyddau DFGUP.

Drysau’n agor am 7pm i ddeiliaid tocynnau VIP yn unig.
Drysau’n agor am 7.15pm i bob deiliad tocyn arall, gyda dawnsio o 8.00pm i 11.30pm.
Cyrhaeddwch erbyn 8pm ar gyfer dechrau’r sioe fel nad ydych yn colli unrhyw hwyl y disgo! Mynediad olaf am 9pm…
SYLWER. Digwyddiad sefyll/dawnsio yw hwn.
Bydd nifer cyfyngedig o seddau ar gael, a’r cyntaf i’r felin gaiff y rhain.

Archebwch tocynnau

Archebwch tocynnau VIP

Dyddiad
26 GOR 2024
Lleoliad
Brangwyn Hall
Archebwch docynnau