Dewch i hela am ddeinosoriaid!
Dewch i hela am ddeinosoriaid yn ein fforest law drofannol…
Bydd pob sesiwn yn cynnwys gweithdy difyr gyda gemau, palu i chwilio am ffosilau anhygoel, cwrdd â Chip the Raptor a Trixie the Triceratops a thynnu llun gyda nhw, ac ymuno â ni wrth hela’r deinosoriaid enfawr sy’n cerdded, Ronnie the T-Rex a Spike the Spinosaurus!
Bydd eich tocyn yn cynnwys mynediad cyffredinol i Plantasia felly gallwch barhau i chwilio ar ôl i chi gwrdd â’r deinosoriaid!
£6 i blant (Plant dan 1 oed am ddim)
£8 i oedolion
Rhaid cadw lle | Ni ellir ad dalu pris tocynnau
Prynwch docynnau ar gyfer dydd Mawrth 15 Awst – WEDI GWERTHU POB UN
Prynwch docynnau ar gyfer dydd Mercher 16 Awst – WEDI GWERTHU POB UN
Prynwch docynnau ar gyfer dydd Iau 17 Awst – WEDI GWERTHU POB UN
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 0800 061 4757.