Yn cyflwyno’r Tyranosor Rex i’r llwyfan, mae Dinosaur Zoo yn dod â’r creaduriaid cynhanesyddol dychrynllyd hyn yn fyw fel nad ydych erioed wedi’u gweld o’r blaen.
O ddeinosoriaid bach annwyl i gewri â dannedd mawr danheddog, dewch i ryfeddu at ddeinosoriaid realistig anhygoel a rhyngweithio â nhw yn y sioe fyw ddychmygus a hynod ddifyr hon.
Ond byddwch yn ofalus. Nid yw pob un o’r ymlusgiaid rheibus hyn mor ddof ag maen nhw’n ymddangos!
Dydd Mercher 2.00pm & 4.30pm, Dydd Iau 11.00am & 2.00pm
Tocynnau: £13.00 & £15.50
Mae pob tocyn yn cynnwys cyfraniad gwerth 50c at y Gronfa Adfer. Codir ffi am gadw lle ar-lein