Wedi’i hysgrifennu a’i chyfarwyddo gan awdur arobryn The Haunting of Blaine Manor, Joe O’Byrne.
Mae Sean Ginty yn berchennog caffi yn Paradise Heights. Dyn tawel sy’n gwisgo wats a stopiodd 35 mlynedd yn ôl. Mae Mackey, plismon chwerw sydd wedi chwythu’i blwc, yn chwilfrydig am orffennol Sean. Pan fydd menyw yn cyrraedd y caffi’n hwyr un noson, mae cyfres o ddigwyddiadau’n datblygu a fydd yn cael effaith ddinistriol ar fywydau pob un ohonynt…
“Mae Diane’s Deli, a ysgrifennwyd mewn ffordd hynod emosiynol a slic, yn cynnig taith ddiddorol i fyd go iawn a pheryglus Paradise Heights.” TheFictionMaker.com