fbpx
BBC NOW Bartok’s Concerto for Orchestra
10 Mai

Date/Time:
Date(s) – 30/06/2017 – 01/07/2017
1:30 pm

Location: Swansea Grand Theatre

3….2…..1….TANIO! 3+

Mae’r llyfr hwn, gan un o’r awduron llyfrau plant mwyaf poblogaidd, David Walliams, yn antur ofod hynod ddoniol i blant 3 oed ac yn hŷn. Dau hipo mawr. Un freuddwyd ENFAWR. Pwy sy’n gallu cyrraedd y lleuad gyntaf?
Mae David Walliams wedi creu argraff fawr ar y byd llenyddol, ac mae plant  o bedwar ban byd yn dwlu ar ei straeon! Mae wedi cael clod digyffelyb gan y beirniaid ac wedi datblygu enw da’n gyflym fel olynydd naturiol i Roald Dahl. Mae ei lyfrau wedi cael eu cyfieithu i dros 45 o ieithoedd ac mae dros 9.5 miliwn o gopïau wedi’u gwerthu yn y DU yn unig.
Wedi’i addasu ar gyfer y llwyfan gan y cwmni theatr clodwiw, Les Petits, ac yn dilyn ei daith lwyddiannus Captain Flinn and the Pirate Dinosaurs a’i sioe boblogaidd sy’n rhoi profiad aml-synhwyraidd, Adventures in Wonderland, dyma antur ryfeddol sy’n cynnwys pypedwaith, cerddoriaeth, anhrefn a ras ofod fawr i’r lleuad!
Mae’r tîm creadigol wedi gweithio ar sioeau poblogaidd megis Dr. Seuss, The Lorax, The Nationals, Elephantom, Warhorse a The Bear gan Raymond Briggs.
Sefydlwyd Les Petits fel chwaer gwmni i’r ‘grŵp theatr hynod graff’ (The Telegraph), Les Enfants Terribles, y mae ei waith yn cynnwys The Trench, The Vaudevillains ac Alice’s Adventures Underground.

Tocynnau: £13.50, Plant £10.50, Tocyn Teulu (4) £44.00
Mae pob tocyn yn cynnwys cyfraniad gwerth 50c at y Gronfa Adfer.
Codir ffi am gadw lle ar-lein.

Prynu tocynnau yma

Dyddiad
30 MEH - 01 GOR
Lleoliad
Swansea Grand Theatre