Dathliadau Dydd Gŵyl Ddewi ym Marchnad Abertawe – dydd Sadwrn 27 Chwefror
Ble sy’n well i ddathlu Dydd Gŵyl Ddewi nag ym marchnad dan do fwyaf Cymru? Rhwng 10am a 4pm ddydd Sadwrn 27 Chwefror, bydd ein ffotograffydd proffesiynol o Smiles Studio yn cynnig ffotograffau 8 x 6 wedi’u gosod AM DDIM i’r holl blant mewn gwisg Gymreig.
Bydd Cookibods hefyd wrth law i wneud byrgyrs a selsig Morgannwg blasus a bydd Artibods yn helpu’r plant i fod yn greadigol gyda chelf a chrefft â thema Gymreig.
Pan fyddwch yma, cofiwch godi bag o bice ar y maen neu fara brith blasus gan un o’n pobwyr penigamp. Hefyd, gwelwch ddetholiad hyfryd o gawsiau Cymreig a danteithion ffermdy i demtio’ch blasbwyntiau. Ac, wrth gwrs, pa ffordd well o ddathlu Dydd Gŵyl Ddewi na chyda chocos a bara lawr ffres o’n stondinau cocos yng nghanol y farchnad?
Ar gyfer croeso Cymreig cynnes a dathliadau Dydd Gŵyl Ddewi, ymwelwch â Marchnad Abertawe ddydd Sadwrn 27 Chwefror.