fbpx
Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2024
15 - 17 Mehefin
Theatr y Grand Abertawe
Stryd Singleton, Abertawe SA1 3QJ Oriau Agor y Swyddfa Docynnau: Llun – Sad, 12.00 Canol dydd – 8.00pm Dyddiau sioe Llun – Sad, 12.00 Canol dydd – 6.00pm Dyddiau heb sio

Tocynnau: £37.00 – £46.50

Nid yw’n syndod mai Daniel O’Donnell yw un o artistiaid mwyaf poblogaidd ein hamser, o’r wlad hon a thramor.

Mae wedi cael gyrfa ryfeddol. Ef yw’r unig artist yn y byd i lwyddo i gyrraedd siart albymau’r DU bob blwyddyn ers 1988, sy’n record unigryw a di-dor o 30 mlynedd, ac wrth wneud hyn mae wedi rhagori ar bawb arall, o Michael Jackson a Madonna i U2 a’r Rolling Stones. Llwyddodd i gyflawni hyn gyda’i albwm diweddaraf ‘Christmas With Daniel O’Donnell’, a ryddhawyd ym mis Tachwedd 2017, ac a aeth i rif 19 yn siart albymau artistiaid y DU. At ei gilydd, mae 38 o albymau Daniel wedi llwyddo i gyrraedd siart albymau artistiaid y DU ac erbyn hyn mae TRI DEG DAU o’i albymau wedi cyrraedd rhestr y 30 albwm uchaf yn ystod ei yrfa. Mae wyth o ganeuon Daniel hefyd wedi llwyddo i gyrraedd rhif un yn siartiau fideos/dvds cerddoriaeth y DU dros y cyfnod hwnnw.

Mae’n ymddangos yn Siart Cerddoriaeth y Byd Billboard yn rheolaidd, mae wedi derbyn MBE er anrhydedd gan y Frenhines Elizabeth, wedi perfformio ar Top of the Pops, wedi dathlu ei gyflawniadau ar This Is Your life ac wedi derbyn nifer o wobrau megis Diddanwr y Flwyddyn/Person y Flwyddyn yn Iwerddon ac yn y DU – i enwi ond ychydig o’r anrhydeddau y mae Daniel wedi’u derbyn. Ac ar ôl bod yn amlwg fel diddanwr dengar ers dros 30 mlynedd, mae wrth ei fodd yn perfformio o flaen cynulleidfaoedd ledled y byd o hyd.

Ffôn: 01792 475715
Dyddiad
07 HYD 2019
Lleoliad
Grand Theatre