fbpx

Date/Time:
Date(s) – 03/08/2017
5:30 pm – 11:30 pm

Location: Parc Singleton

Nos Iau 3 Awst, Cae Lacrosse, Parc Singleton

Mae’r gatiau’n agor am 5.30pm, mae’r ffilm yn dechrau am 9.30pm

Gyda chymorth Cyngor Dinas Abertawe, bydd dangosiad arbennig i nodi ugain mlynedd ers rhyddhau ffilm eiconig, boblogiadd iawn Cymru.

Mae Twin Town yn 20 oed eleni ac, i ddathlu hyn, bydd unig sinema annibynnol Abertawe, CINEMA & Co, yn cynnal parti ar y cyd â Joio Abertawe, ar Gae Lacrosse y “pretty shitty city” ym Mharc Singleton. Bydd cŵn poeth, wth gwrs – bar shisha o Bubble Lounge, bariau trwyddedig, cerddoriaeth fyw gan King Goon a sgrîn fawr fel y gall 5000 o selogion lwcus Twin Town wylio’r ffilm yn ei holl ogoniant. Bydd y cyfarwyddwr a’r cydawdur, Kevin Allen, yn cynnal sesiwn holi ac ateb a bydd llawer o elfennau annisgwyl.

Anogir gwesteion i wisgo yn null y 90au – ac argymhellir yn gryf y dylech wisgo top yr Elyrch o’r 90au!

Meddai’r Cyfarwyddwr a’r Cydawdur, Kevin Allen, “Nid yw’n teimlo fel 20 mlynedd ers i mi gyfarwyddo Twin Town – mewn gwirionedd, mae’n teimlo fel ddoe. Er bod llawer wedi digwydd ers cynhyrchu’r ffilm ryfeddol honno yn fy nhref frodorol, mae Twin Town yn dal yn annwyl iawn i mi, ac mae’n ffilm rwy’n hynod falch ohoni. Mae nifer y rhai sy’n dwlu ar y ffilm wedi cynyddu’n aruthrol dros y blynyddoedd ac, ar ôl bod oddi cartref am gymaint o amser, nid wy’n gallu credu pa mor boblogaidd yw hi. Ac rwy’n meddwl dyna pam mae’n debyg yn gwbl briodol i gynnal dangosiad ugainmlwyddiant fel hyn. Rwy’n siŵr y bydd yn noson wych – ac rwy’n edrych ymlaen yn  fawr at gwrdd â’r cast eto, y mae sawl aelod ohono dwi heb ei weld ers blynyddoedd lawer. Mae hefyd yn wych gweld sinema annibynnol yn ffynnu i’r fath raddau yn Abertawe, ac rwy’n siŵr y bydd Cinema & Co, ynghyd â’r cyngor, yn trefnu sioe wych. ”

Prynu tocynnau yma

Dyddiad
03 AWS 2017
Lleoliad
Singleton Park