fbpx
BBC NOW Bartok’s Concerto for Orchestra
10 Mai

Ac yntau’n uchel ei barch fel llais Test Match Special, daw ‘Blowers’, Henry Blofeld, â’i ffraethineb a’i ddoethineb i’r llwyfan unwaith eto.

Mae Henry’n awyddus i bwysleisio nad criced mo’r cyfan, yn wir nid oes fawr ohono am griced, ac mae pob sioe’n wahanol. Felly hyd yn oed os buoch chi o’r blaen, gallwch fod yn siŵr na fyddwch chi byth yn gweld yr un sioe ddwywaith.

“Bydd pobl yn ymgasglu wedyn yn y cyntedd a dweud, ‘Doedd gyda ni ddim syniad taw fel hyn fyddai hi. Roedden ni’n meddwl mai sioe am griced oedd hi.’ Ond dyw hi ddim. Ac os ydych chi’n credu y dysgwch chi sut i chwarae ergyd amddiffynnol, cewch eich siomi’n dost.”

Yn hytrach, seilir y sgwrs, yn yr ystyr ehangaf, ar hanes bywyd Henry, er bod digon o amser am straeon wedi swper a mwydro, fel y bydd pan fo’r glaw’n atal Test Match Special.

Mae’r sioe’i hun yn hynod dafod-yn-y-boch a threulia Henry lawer o amser yn difrïo’i hunan; ymysg y pynciau mae teithio rhwng galaethau, garddio, a mynydda. Bydd cynulleidfaoedd yn sicr o gael noson o chwedlau gwych gan y Sais nodweddiadol.

Cyflwynir mewn cydweithrediad â Clive Conway Productions.

 

Archebwch Docynnau

Dyddiad
13 EBR 2024
Lleoliad
Canolfan Celfyddydau Taliesin
Price
10.00