fbpx
Sioe Awyr Cymru 6 & 7 Gorffennaf 2024
Gweld Mwy

Nos Iau 13 Mehefin, o 6pm

Gwesty Morgans

Rydym yn croesawu noddwr yr ŵyl, Syr Sir Karl Jenkins i ddigwyddiad dathlu arbennig i nodi ei ben-blwydd yn 80 oed a 75 mlynedd ers sefydlu Gŵyl Jazz Abertawe – noson o fwyd da, cwmni gwych a sain cŵl jazz na ddylid ei cholli.

 

  • O 6pm: Jazz byw yn y bar/diodydd croeso
  • 7pm: Pumawd Nigel Hitchcock/Mark Nightingale (set 1af)
  • 8pm: Cinio nos
  • 9.30pm: Pumawd Nigel Hitchcock/Mark Nightingale (2il set)

 

Gyda Phumawd Nigel Hitchcock/Mark Nightingale

  • Nigel Hitchcock (Sacsoffon)
  • Mark Nightingale (Trombôn),
  • Ian Thomas (Drymiau)
  • Laurence Cottle (Bas)
  • Jim Watson (Piano)

Archebwch nawr!

Ystyrir NIGEL HITCHCOCK gan lawer fel cerddor mwyaf dawnus ei genhedlaeth.

Daeth i amlygrwydd gyntaf gyda’r Gerddorfa Jazz Ieuenctid Genedlaethol (NOJO), gan ddod yn brif sacsoffonydd alto pan oedd yn 11 oed. Erbyn ei fod yn 15 oed, roedd yn gweithio fel cerddor proffesiynol yn gwneud gwaith stiwdio a pherfformiadau niferus o gwmpas y wlad, ac erbyn ei fod yn 21 oed roedd wedi gweithio gyda bron pob band mawr oedd i’w cael.

Mae Nigel wedi perfformio gyda llawer o artistiaid gan gynnwys Tom Jones, Wet Wet Wet, Beverley Craven, Hue and Cry, Swing Out Sister, Ray Charles, Robbie Williams a Mark Knopfler. Mae wedi rhyddhau tri albwm unigol, y cyntaf ‘Snakeranch Sessions’ ym 1997 dan Black Box, a rhyddhawyd y ddau nesaf, ‘SmootHitch'(2013) a ‘Hitchgnosis’ (2019) dan ei label ei hun sef ‘Eight Inch Clock’ .

Mae Nigel bellach yn byw yn yr Almaen ac mae e’n hedfan draw i berfformio ar ddechrau Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe. Mae e’ wedi cydweithio ar brosiectau gyda Syr Karl Jenkins a bydd yn arwain y sacsoffonau yng nghyngerdd Syr Karl nos Wener.

Mae’r trombonydd jazz Mark Nightingale sydd wedi ennill amryfal wobrau, yn ffefryn sefydledig ym myd jazz y DU ac mae wedi cael enw fel un o drombonwyr jazz gorau Ewrop a’r byd. Mae Mark wedi cael cysylltiadau cerddorol hirsefydlog yn chwarae mewn bandiau dan arweiniad John Dankworth, Cleo Laine, Stan Tracey, Kenny Wheeler, Andy Panayi, Clark Tracey ac Alan Barnes dros y blynyddoedd. Mae e’ hefyd yn arwain grwpiau bach ac mae ganddo fand mawr ei hun, sy’n perfformio’i gyfansoddiadau a’i drefniannau ei hun.

Mae Mark hefyd yn gerddor stiwdio prysur yn Llundain, ac mae wedi chwarae ar gannoedd o draciau sain ffilmiau a bu’n ffodus i chwarae a recordio gyda rhai o’r mawrion ym mhob genre o gerddoriaeth. Mae’r rhain yn cynnwys Ray Brown, Clark Terry, Scott Hamilton, James Morrison, Bill Holman, Frank Sinatra, Charlie Watts, Sting a Steely Dan.

Mae’n fwyaf adnabyddus i lawer o chwaraewyr ifanc am ei gatalog cynyddol o astudiaethau addysgol a darnau byr a gyhoeddwyd gan ‘Warwick Music’ ac a ddefnyddir yn helaeth gan ABRSM a Trinity/Guildhall ym meysydd llafur eu harholiadau cerddoriaeth.

13 MEH 2024

Cyngerdd a Chinio Gala Agoriadol gyda’r Noddwr, Syr Karl Jenkins

18:00pm