Trwy chwarae gyda graddfa a’r cymeriadau hyn, byddwn yn creu golygfeydd trefol llawn hwyl ac yn archwilio ffyrdd newydd o ail-weld yr hyn sydd o’n cwmpas o ddydd i ddydd gan ddefnyddio ysbwriel o’r ddinas!
Mae Valentine Gigandet (ei/hi) yn ddylunydd, arlunydd a hwylusydd sy’n gweithio o Gaerdydd. Gyda chefndir mewn Dylunio ar gyfer Perfformio, mae ganddi ddiddordeb mewn gwneud celf yn fwy hygyrch ac mae’n defnyddio creadigrwydd fel llwyfan ar gyfer newid cymdeithasol.
Gweld digwyddiadau eraill yn Theatr Volcano yma
14 MEH 2024
13:00pm - 14:30pm