Gadewch i ni godi’r angor a chodi hwyl i ddarganfod cyfrinachau’r môr. Dewch i fapio tiroedd tramor, darganfod gorwelion newydd a nofio mewn môr o eiriau.
A fydd eich meddyliau’n gorlifo neu’n teithio mewn llong danfor ar wely’r môr? Nid oes ots os ydych yn arnofio neu’n suddo, ar yr amod eich bod yn creu ac yn meddwl! Plymiwch i ddyfnderoedd cudd eich dychymyg!
Ar agor i fordeithwyr dewr 6-10 oed.
1pm – 3pm
Dewch â chreadigrwydd, syniadau am angenfilod dyfrol newydd sbon ac oedolion mewn gwisg môr-leidr (dewisol).
Am ddim – cadwch le ymlaen llaw.
Canolfan The Dylan Thomas: