Mae taith Cowbois Rhos Botwnnog i ddathlu eu record hir newydd, “Mynd â’r Tŷ am Dro”, yn ymweld â’r Bunkhouse, Abertawe ar nos Sadwrn y 23ain o Fawrth!
Dyma eu taith gyntaf ers 2020, a byddan nhw’n perfformio deunydd newydd sbon yn ogystal â’r hen ffefrynnau, caneuon gan artistiaid eraill, a chaneuon gwerin. Gyda band mawr a gwerth deunaw mlynedd o ganeuon, dewch i’w gweld nhw ar eu gorau.
Sadwrn 23 Mawrth
🕕 Drysau 18.00
🎟️ Tocynnau £9.55 (including fees)