fbpx
Sioe Awyr Cymru 6 & 7 Gorffennaf 2024
Gweld Mwy

Gyda Robin Windsor.

Cyflwynwn strafagansa llawn caneuon a dawnsio i chi wrth i chi gamu i fyd cyfrinachol un o’r sioeau cerdd ffilm mwyaf erioed.

Gyda dawnsiwr penigamp Robin Windsor, un o sêr Strictly Come Dancing a chast o berfformwyr gorau’r West End.

Mae’n orlawn o glasuron gan gynnwysCome What May, Your Song, Diamonds Are A Girl’s Best Friend, Roxannea Lady Marmalade yn ogystal â chaneuon poblogaidd o The Greatest Showman a sioeau cerdd ffilm eiconig eraill.

Teithiwch yn ôl mewn amser wrth i blant y chwyldro fynd â chi ar daith wefreiddiol ddiddiwedd i isfyd rhywiol, drwg-enwog a hudolus Paris.

Mae’n sioe ‘syfrdanol’ ac yn noson drawiadol o ddawnsio, breuddwydion ac antur fythgofiadwy, ac uwchlaw popeth – cariad!

Dyddiad
24 CHWE 2023
Lleoliad
Swansea Grand Theatre
Price
29.00