fbpx
BBC NOW Bartok’s Concerto for Orchestra
10 Mai

Ymunwch â ni i wylio ffilm i’r teulu mewn lleoliad hamddenol yr Pasg hwn.
Gellir archebu i weld pob ffilm am ddim; mae nifer cyfyngedig o leoedd ar gael Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein

Encanto – Walt Disney Animation Studios
PG

Mae Encanto yn adrodd stori teulu anarferol, y Madrigaliaid, sy’n byw yng nghudd ym mynyddoedd Colombia, mewn tŷ hudol, mewn tref fywiog, mewn lle rhyfeddol, llawn hud o’r enw Encanto. Mae hud Encanto wedi bendithio pob plentyn yn y teulu â rhodd unigryw, o gryfder eithriadol i’r pŵer i wella – pob plentyn heblaw am un, Mirabel. Ond pan fydd hithau’n darganfod bod yr hud sy’n amgylchynu Encanto mewn perygl, mae Mirabel yn penderfynu efallai mai hi, yr unig aelod cyffredin o’r Madrigaliaid, fydd gobaith olaf ei theulu rhyfeddol