fbpx
Sioe Awyr Cymru 6 & 7 Gorffennaf 2024
Gweld Mwy

Y sioe deyrnged orau i’r 80au.

Bydd sioe Club 80s Live yn mynd â chi ar daith llawn cynnwrf yn ôl drwy un o gyfnodau gorau cerddoriaeth.

Mae’r daith gerddorol ddi-baid hon yn ôl i gyfnod yr ôl-gribo a anghofiwyd gan ffasiwn yn llawn dop o ganeuon ysgubol gan Cyndi Lauper, Culture Club, Guns & Roses, Frankie Goes to Hollywood, Erasure, Bon Jovi, Wham, Deacon Blue a llawer llawer mwy.

Bydd band sy’n fwy tynn na leotard Spandex a dawnswyr sy’n disgleirio’n fwy llachar na goleuadau neon Vegas yn cefnogi cast sydd ben ac ysgwyddau’n well na’r lleill, mewn sioe llawn ffefrynnau lle newidir gwisgoedd yn aml ac yn fynych.

Felly rhowch y Ciwb Rubik o’r neilltu a pharatowch i deithio’n ôl i oes o gerddoriaeth na fydd pobl byth yn ei hanghofio. P’un a ydych yn gweithio fel morwyn fwrdd mewn bar coctel neu’n grwt o’r ddinas, gadewch i ‘Club 80s’ eich arwain yn ôl i ddiwrnodau hapusaf eich bywyd.

 

Archebwch Docynnau

Dyddiad
27 MEH 2024
Lleoliad
Theatr Y Grand Abertawe
Price
26.00
Archebwch docynnau