fbpx
Pawb ar fwrdd am antur cefnfor gerddorol llawn hwyl i’r teulu cyfan!
Sad 1 Mehefin

Mae Oriel Gelf Glynn Vivian Cyngor Abertawe yn cyflwyno Clogwyni, cildraethau a chocos: darlunio penrhyn Gŵyr, sy’n cael ei harddangos rhwng 18 Mai 2024 a 12 Ionawr 2025.

Mae’r arddangosfa wedi’i rhaglennu i gyd-fynd â Gŵyl Gerdd a Chelfyddydau Gŵyr 2024, a gynhelir ym mis Gorffennaf. Mae dathlu Gŵyr fel ysbrydoliaeth i artistiaid yn ychwanegu diddordeb lleol arbennig at ŵyl eleni. 

Penrhyn Gŵyr oedd y lle cyntaf ym Mhrydain i gael ei ddynodi’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, ac mae ei arfordir creigiog dramatig, ei draethau, ei fryniau a’i ddyffrynnoedd yn darparu cyfleoedd hamdden awyr agored a mwynhad i breswylwyr Abertawe ac ymwelwyr fel ei gilydd.  

Mae twristiaid wedi rhoi llawer o gyhoeddusrwydd i’w brif atyniadau, yn enwedig Bae y Tri Chlogwyn a Rhosili. Fodd bynnag, mae artistiaid lleol ac artistiaid gwadd wedi ymateb i benrhyn Gŵyr a’i olygfeydd gan ddefnyddio dulliau mwy personol. Mae’r rhain yn amrywio o themâu diwydiannol yng ngogledd-ddwyrain Gŵyr gan Ceri Richards ac Archie Rhys Griffiths, i olygfeydd o draethau yn yr haf a brasluniau dyfrlliw o dirluniau gan Will Evans a gweledigaethau lliwgar a llawn mynegiant Glenys Cour. 

O Cedric Morris, a fu’n ymweld â Gogledd Gŵyr yn y 1930au, gan baentio ei fryniau a’i ffermydd gan edrych ar draws y dŵr ar simneiau diwydiannol Llwchwr, i’r arlunydd alltud o’r Weriniaeth Tsiec, Ernest Neuschul, a oedd yn cael ei syfrdanu gan waith ymdrechgar casglwyr cocos Pen-clawdd, bydd yr arddangosfa’n archwilio tir amaeth, rhosydd a thiroedd comin y penrhyn, gorsydd hardd Moryd Llwchwr, a’r clogwyni a’r cildraethau ysblennydd sy’n edrych dros Fôr Hafren. 

Mae’r arddangosfa’n cynnwys gwaith o gasgliad parhaol y Glynn Vivian ac mae celfweithiau dethol yn yr arddangosfa hon ar fenthyg gan Amgueddfa Cymru – Amgueddfa Genedlaethol Cymru fel rhan o’r fenter Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol i Gymru, Celf ar y Cyd. 

Dyddiad
18 Mai 2024 - 12 ION 2025
Lleoliad
Glynn Vivian Art Gallery
Visit website