Byd sy’n llawn lliw wrth i ganeuon ysgubol o hoff sioeau pawb o’r West End a Broadway gael eu cyfuno ag awyrgamwpyr anhygoel, ystumwyr ystwyth a champau gwefreiddiol o ystwythder a dawn. Gadewch i’r gerddoriaeth fynd â chi ar daith wirioneddol ryfeddol sy’n llawn lliw caleidosgopaidd.Mae sêr y West End yn cyfuno â pherfformwyr syrcas anhygoel wrth i’r caneuon mwyaf poblogaidd o’ch hoff sioeau theatr ddod i’r llwyfan mewn arddull unigryw a gwefreiddiol. Bydd sêr syrcas trawiadol yn ymuno â chast llawn sêr a fydd yn perfformio caneuon poblogaidd o’ch hoff sioeau – gan greu cynhyrchiad hudolus sy’n hyfryd ac yn syfrdanol. Dewch i fyd rhyfeddol Cirque.
Dewch yn llu, dewch yn llu ac archebwch eich seddi’n awr ar gyfer noson fythgofiadwy heb ei thebyg. Mae gan yr hyrwyddwr yr hawl i newid y rhaglen