fbpx
BBC NOW Bartok’s Concerto for Orchestra
10 Mai

Yn dynn ar sodlau Phantasmagoria The Circus of Horrors sef ‘The Haunted Fairground’ daw sioe newydd syfrdanol – Dr Haze’s Cabaret Of Curiosities. Bydd y sioe arswydus newydd hon yn eich syfrdanu gyda set wych, goleuadau llachar, effeithiau arbennig ac, wrth gwrs, campau syrcas rhyfeddol, stori sinistr a hudoliaeth dywyll gyda sgôr roc wreiddiol.

Pe bai Quentin Tarantino wedi cyfarwyddo Cirque Du Soleil yna byddech hanner ffordd yno.

Cynhyrchiad 2024 yw’r deyrnged bennaf i Dr Haze, meistr syrcas sy’n un o’r meirw byw a chrëwr y syrcas arswyd, sy’n gadael etifeddiaeth o adloniant rhyfedd a beiddgar ar ei ôl. Os bu erioed ‘Greatest Showman’ yn y byd sydd ohoni, yna byddai Dr Haze ymhlith y ceffylau blaen heb os nac oni bai. A dweud y gwir, dyfynnodd ‘Time Out’ Llundain unwaith y byddai ‘Barnum yn falch’ wrth ddisgrifio Dr Haze a The Circus of Horrors.

Dewch i brofi reid roc a rôl llawn eithafion drwy Gabaret o Hynodion sy’n cynnwys llyncwyr cleddyfau, awyrgamwpyr aruthrol sy’n hongian wrth eu gwallt uwchben yr awditoriwm, jyglwyr gwyllt, ystumwyr ystwyth, acrobatiaid fwdw, pobl wedi’u piclo, merched sioe sy’n feistri ar ddefnyddio cylchynnau hwla a llawer mwy!

Mae’r cast anhygoel hwn a lwyddodd i gyrraedd rownd derfynol Britain’s Got Talent bellach yn rhan o sioe lwyddiannus yn y West End ac ar draws y byd.

Ac mae pob cân yn rhagorol! Mae’n syrcas unigryw, ac yn sioe na ddylech ei cholli.

Rhaid i’r sioe fynd yn ei blaen a byddwch yn siŵr o gael profiad dieflig o dda!

Dyddiad
01 CHWE 2024
Lleoliad
Swansea Grand Theatre
Price
23.00