Yn seiliedig ar y llyfr gwreiddiol Charlie Cook’s Favourite Book – gan Julia Donaldson a darluniau gan Axel Scheffler. Addaswyd gan Barb Jungr a Samantha Lane.
Mae Charlie’n dwlu darllen. Yn enwedig llyfrau am forladron. Ond mae’i chwaer yn ei gasáu – mae’n ddiflas! All Charlie ei pherswadio fod darllen yn hwyl? Efallai pe bai hi’n darllen llyfr am forleidr, syn darllen llyfr am Elen Benfelen, sy’n darllen llyfr am farchog…
Dewch i blymio i ganol llyfrau gyda Charlie Cook, a ddaw yn fyw drwy gyfrwng pypedau a chaneuon hyfryd, ac efallai y byddwch chi’n gallu helpu’i chwaer i ddarganfod y byd hyfryd sy’n bodoli mewn llyfr…
Bydd yr addasiad cerddorol mawreddog hwn o ‘Charlie Cook’s Favourite Book’ gan Julia Donaldson ac Axel Scheffler yn dathlu llawenydd darllen – gan y tîm a enwebwyd am wobr Olivier oedd yn gyfrifol am
‘The Smartest Giant in Town’.
Yn dilyn cyfnod dros y Nadolig yn y Little Angel Theatre yn Islington, mae’r cyd-gynhyrchiad hyfryd hwn rhwng Little Angel Theatre a The Lowry yn dechrau ar daith genedlaethol drwy gydol 2024, gyda gweithdai llythrennedd i ysgolion i gyd-fynd â’r daith.
Testun © Julia Donaldson 2005. Darluniau © Axel Scheffler 2005. Cyhoeddwyd gan Macmillan Children’s Books © 2005
Oedran: 3-8. Hyd y sioe: 1awr (dim egwyl).