Dydd Iau 9 Mehefin, Southgate, Gŵyr
Ymunwch â Cherddwyr Abertawe ar gyfer taith gerdded fywiocaol yn Southgate ar benrhyn hardd Gŵyr.
Mwynhewch yr awyr agored, y lleoliadau prydferth, y cwmni da ac wrth gwrs yr ymarfer corff – gyda’r fantais ychwanegol o luniaeth a chyfle i gymdeithasu yn Kittle wedi hynny yn nhafarn The Beaufort (yr hynaf ym Mro Gŵyr yn ôl y sôn!) Bydd y daith o oddeutu 2 awr yn archwilio llwybrau nad ydynt yn cael eu defnyddio’n aml, felly byddwch yn ymwybodol y bydd peth llaid os yw wedi bod yn bwrw glaw.
Arweinydd y daith gerdded yw Andrew Morgan (07719-409504)
Hyd y daith yw oddeutu 3-4 milltir a bydd yn un cymedrol.
Caniateir Cŵn Cymorth Cofrestredig Yn Unig (nid yw’r ardal a gerddir yn addas i gŵn)
Man Amser a Chyfarfod: 7.00pm ym maes parcio Ysgol Gynradd Pennard
CG: SS 554 883