fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Digwyddiadau mis Gorffennaf i fis Medi

 

Dydd Sadwrn 2 Gorffennaf, 10.30am – 1pm
Gweithdy Crefftau Dydd Sadwrn i Oedolion
Ymunwch â ni am ein sesiwn Crefftau Dydd Sadwrn fisol â thema Dylan Thomas.
Am ddim – cofiwch gadw lle ymlaen llaw.

‘Holiday Memory’ Gweithgareddau hunanarweiniedig am ddim i deuluoedd

Trwy gydol gwyliau’r haf, bydd ein man dysgu cyfeillgar teuluol ar agor ar gyfer chwarae hunanarweiniedig am ddim pan nad yw’n cael ei ddefnyddio ar gyfer gweithdai. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys pypedau, ysgrifennu creadigol, gemau, cornel ddarllen, crefftau a gwisg ffansi a’r cyfan wedi’i ysbrydoli gan ‘Holiday Memory’ gan Dylan Thomas. Ffoniwch ni ar 01792 463980 i weld a oes lle ar gael.

 

Dydd Gwener 22 Gorffennaf, 1pm – 4pm
Gweithdy Crefftau Galw Heibio i Deuluoedd ‘Holiday Memory’
Dyddlyfrau Gwyliau – gweithdy crefftau â thema, gwych i deuluoedd â phlant hŷn, ond mae croeso i bobl o bob oed.
Galw heibio, am ddim.

 

Dydd Sadwrn 23 Gorffennaf, 10am – 12.30pm
Realaeth Hud: Ffuglen a Breuddwyd: Gweithdy i Oedolion gydag Alan Bilton
Fel arddull ysgrifennu, mae Realaeth Hud yn ceisio cyfuno’r amhosibl a’r credadwy, gwneud yr hyn sy’n ffantastig yn ddiriaethol, a chreu bydoedd breuddwydion sy’n gallu derbyn pwysau’r darllenwr. Mae’r gweithdy’n edrych ar wreiddiau Realaeth Hud mewn myth a ffantasi, gan archwilio cariad swrreal breuddwydion, a’r hyn sy’n digwydd pan fo’r rhyfedd a’r annaearol yn ymwthio ar ffuglen realistig gan greu teimladau o anesmwythyd, ofn a braw.
Mae Alan Bilton yn addysgu llenyddiaeth, ffilm ac ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’n awdur dwy nofel.
Pris Llawn £5.00; Consesiynau £3.50; PTL Abertawe £1.60

 

Dydd Sadwrn 23 Gorffennaf, 1pm
Shakespeare 400: The Fume of Sighs
‘Love is a smoke raised with the fume of sighs’ – Romeo & Juliet.
Mae tymor Shakespeare 400 Fluellen yn parhau gyda golwg ar y cariadon niferus ac amrywiol yn nramâu Shakespeare.
Pris Llawn £5.00; PTL Abertawe £1.60

 

Dydd Llun 25 Gorffennaf, 1pm – 4pm
Gweithdy Galw Heibio i Deuluoedd ‘Holiday Memory’
Wedi’n hysbrydoli gan ‘Holiday Memory’ gan Dylan Thomas, byddwn yn gwneud pypedau a theatrau’n seiliedig ar themâu glan môr traddodiadol. Bydd paentio wynebau glan môr a gweithgareddau megis gemau, pypedau, cornel ddarllen a gwisg ffansi. Gwych i deuluoedd â phlant iau, ond mae croeso i bobl o bob oed.
Galw heibio, am ddim.

 

Dydd Gwener 29 Gorffennaf, 1pm – 4pm
Gweithdy Crefftau Galw Heibio i Deuluodd ‘Holiday Memory’
Ymunwch â ni ar gyfer gweithdy â thema i greu deunydd ysgrifennu a llythyrau. Mae’r gweithdy’n wych i deuluoedd â phlant hŷn, ond mae croeso i bobl o bob oed.
Galw heibio, am ddim.

 

Dydd Llun 1 Awst, 1pm – 4pm
Gweithdy Galw Heibio i Deuluoedd ‘Holiday Memory’
Heddiw, byddwn yn gwneud llythyrau a chardiau post. Hefyd, bydd paentio wynebau, llyfrau, gemau, gwisg ffansi a phypedau â thema gwyliau. Gwych i deuluoedd â phlant iau, ond mae croeso i bobl o bob oed.
Galw heibio, am ddim.

 

Dydd Gwener 5 Awst, 1pm – 4pm
Gweithdy Llyfrau Comics Gwyliau
Dewch i greu’ch comics eich hunan: byddwn ni’n dylunio cymeriadau, yn creu byrddau stori ac yn creu comic bach y gallwch fynd ag ef adref. Ystod oedran gymeradwy 8+. Galw heibio, am ddim.

 

Dydd Sadwrn 6 Awst, 10.30am – 1pm
Gweithdy Crefftau Dydd Sadwrn i Oedolion
Ymunwch â ni am ein sesiwn Crefftau Dydd Sadwrn fisol â thema Dylan Thomas.
Am ddim – cofiwch gadw lle ymlaen llaw.

 

Dydd Llun 8 Awst, 1pm – 4pm
Gweithdy Galw Heibio i Deuluoedd ‘Holiday Memory’
Byddwn yn gwneud fframiau lluniau glan môr gwyliau doniol. Dewch â lluniau maint pasbort i’w hychwanegu at eich ffrâm neu crëwch un i ychwanegu ati gartref. Hefyd, bydd paentio wynebau, llyfrau, gemau, gwisg ffansi a phypedau â thema gwyliau. Gwych i deuluoedd â phlant iau, ond mae croeso i bobl o bob oed.
Galw heibio, am ddim.

 

Dydd Gwener 12 Awst, 1pm – 4pm
Gweithdy Galw Heibio i Deuluoedd Straeon Pwytho fel rhan o Ŵyl Bwytho Abertawe
Gweithdy tecstilau galw heibio â thema, gwych i deuluoedd â phlant hŷn, ond mae croeso i bobl o bob oed.
Galw heibio, am ddim.

 

Dydd Sadwrn 13 Awst, 1.30pm – 4.30pm
Rob Gittins: Bywyd Gwaith Sgriptiwr Ffilmiau – Gweithdy i Oedolion
Ydych chi erioed wedi bod eisiau ysgrifennu sgriptiau teledu neu ffilm, neu ysgrifennu nofel? Treuliwch ychydig o oriau gydag un o awduron drama deledu gorau’r DU i ganfod sut.
Mae Rob Gittins wedi ysgrifennu ar gyfer y rhan fwyaf o gyfresi drama deledu gorau’r DU, gan gynnwys EastEnders, Casualty, The Bill, a Heartbeat.

Bydd Rob yn siarad am ei yrfa – sut y dechreuodd, y sioeau gwahanol mae wedi gweithio arnynt – yn ogystal â’r ffyrdd gwahanol mae’r dramâu hynny’n gweithio. Bydd Rob yn ateb eich cwestiynau penodol – felly dewch yn barod! Hefyd, bydd arweiniad ymarferol i greu straeon ar gyfer sioeau hirsefydlog.
Pris Llawn £7.00; Consesiynau £4.50; PTL Abertawe £2.30

 

Dydd Llun 15 Awst, 1pm – 4pm
Gweithdy Galw Heibio i Deuluoedd ‘Holiday Memory’
Heddiw, byddwn yn creu gêm siwtces stori. Mae gweithgareddau ‘Holiday Memory’ eraill yn cynnwys paentio wynebau, gemau, gwisg ffansi, cornel ddarllen a phypedau. Gwych i deuluoedd â phlant iau, ond mae croeso i bobl o bob oed.
Galw heibio, am ddim.

 

Dydd Gwener 19 Awst, 1pm – 4pm
Gweithdy Galw Heibio i Deuluoedd Straeon Pwytho fel rhan o Ŵyl Bwytho Abertawe
Gweithdy tecstilau galw heibio â thema, gwych i deuluoedd â phlant hŷn, ond mae croeso i bobl o bob oed.
Galw heibio, am ddim.

 

‘No book ever ends…’ Wythnos o weithdai a gweithgareddau wedi’u hysbrydoli gan Roald Dahl, 22 – 28 Awst
Dydd Llun 22 Awst, 1pm – 4pm
Jariau Breuddwydion Ffewddewin – Gweithdy Galw Heibio i Deuluoedd wedi’i Ysbrydoli gan Roald Dahl
Heddiw, byddwn yn gwneud jariau dal breuddwydion yn barod i ddal Ffewddewin Euraidd neu Drwglgrwbiwr brawychus! Hefyd, bydd paentio wynebau a gweithgareddau â thema Roald Dahl. Dewch yng ngwisg eich hoff gymeriad Roald Dahl! Gwych i deuluoedd â phlant iau, ond mae croeso i bobl o bob oed.
Galw heibio, am ddim.

 

Dydd Mawrth 23 Awst, 1pm – 3pm
Gweithdy Barddoniaeth Meistri Dyfeisio gyda Sophie McKeand
I blant a phobl ifanc 8-13 oed

‘You mean whales’, Sophie said. ‘Wales is something quite different.’
‘Wales is whales’, the Giant said. ‘Don’t gobblefunk around with words. I will now give you another example. Human beans from Jersey has a most disgustable woolly tickle on the tongue…human beans from Jersey is tasting of cardigans.’ – Roald Dahl, The BFG.

Roedd creu geiriau ac iaith lol yn rhywbeth roedd Roald Dahl yn ymhyfrydu ynddo gyda’i ddefnydd hydswyngyfareddol o iaith a chwarae ar eiriau go-ogleisiol. Gan weithio gyda’n grŵp, dringwch y tu mewn i eiriau, eu cnoi, eu drysu a’u rhwygo er mwyn creu cerdd newydd.
£2.00 Mae lleoedd yn gyfyngedig: cofiwch gadw lle ymlaen llaw.

 

Dydd Mercher 24, dydd Iau 25 a dydd Sul 28 Awst, 10am – 4pm
‘No book ever ends…’ gweithgareddau hunanarweiniedig wedi’u hysbrydoli gan Roald Dahl
Bydd ein man dysgu ar agor ar gyfer gweithgareddau hunanarweiniedig, gan gynnwys gemau, gweithgareddau ysgrifennu creadigol, crefftau, cornel ddarllen a phypedau.
Galw heibio, am ddim.

 

Dydd Gwener 26 Awst, 1pm – 2.30pm a 2.30pm – 4pm
‘Llyfrau Syniadau’ – Gweithdy i Deuluoedd wedi’i Ysbrydoli gan Roald Dahl
Yn union fel Dylan Thomas, cadwodd Roald Dahl hen lyfrau ymarferion yr oedd yn eu llenwi ag ysbrydoliaeth ar gyfer ei lyfrau. ‘Llyfrau syniadau’ oedd ei enw ar y rhain. Gan ddechrau gyda dyddlyfrau gwag, byddwn yn dylunio tudalennau ar gyfer creu a chadw syniadau ac, ar hyd y ffordd, yn archwilio amrywiaeth cyffrous o dechnegau. Mae’r gweithdy hwn yn addas i deuluoedd â phlant a phobl ifanc 8 oed a hŷn. Bydd dyddlyfrau gwag ar gael ar y diwrnod am £1.

 

Dydd Sadwrn 27 Awst, 10am – 1pm
‘Crëwr Digrifwch, Meistr Arswyd, Dyfeisiwr Anghenfil’: Gweithdy i Oedolion gyda Rebecca Parfitt
Ymunwch â golygydd The Ghastling ar gyfer gweithdy ysgrifennu unigryw sy’n archwilio’r arswyd a’r erchylltra yn straeon byrion Roald Dahl i oedolion ac ysgrifennwch eich stori’ch hunan gan ddefnyddio elfennau arbennig Dahl. Mae’r gweithdy’n archwilio straeon wedi’u dewis yn arbennig sy’n canolbwyntio ar gymeriadaeth Roald Dahl, y swrreal a’r erchyll, yr arswyd a’r ‘rhamant’ ddomestig, a ‘throeon’ Dahl. Hefyd, mae cyfle i waith cyfranogwyr gael ei gyhoeddi yn The Ghastling .
Cadwch le ymlaen llaw gan mai 10 yn unig sydd.
Pris Llawn £7; Consesiynau £4.50; PTL Abertawe £2.30

 

Dydd Sul 28 Awst, 10.30am – 12.30pm
Taith Dywys: Abertawe Dylan
Bydd Cwmni Theatr Fluellen yn cyflwyno taith dywys fywiog a difyr sy’n seiliedig ar berfformiad o gwmpas canol Abertawe Dylan. Bydd yn dechrau yng Nghanolfan Dylan Thomas ac yn cynnwys Sgwâr Dylan Thomas, The Three Lamps, Sgwâr y Castell, a safle’r Kardomah. Daw’r daith i ben yn y No Sign Wine Bar.
Pris Llawn £10.00; Consesiynau £7.00; PTL Abertawe £4.00

 

Dydd Llun 29 Awst, 1pm – 4pm
Gweithdy Galw Heibio i Deuluoedd ‘Holiday Memory’
Galwch heibio a chreu ceffylau bach carlam gwyllt! Gyda phaentio wynebau a gweithgareddau â thema sy’n cynnwys gemau, cornel ddarllen, gwisg ffansi a phypedau. Gwych i deuluoedd â phlant iau, ond mae croeso i bobl o bob oed.
Galw heibio, am ddim.

 

Dydd Sadwrn 3 Medi, 10am-1pm
Gweithdy Crefftau Dydd Sadwrn i Oedolion
Ymunwch â ni am ein sesiwn Crefftau Dydd Sadwrn fisol â thema Dylan Thomas.
Am ddim – cofiwch gadw lle ymlaen llaw.

 

Dydd Sadwrn 17 Medi, 1pm
Shakespeare 400: Menywod Shakespeare
Mae tymor Shakespeare 400 Cwmni Theatr Fluellen yn parhau gyda golwg ar y menywod gwych ac amlweddog yn ei ddramâu – o Juliet i Lady Macbeth, gyda sawl un arall yn y canol.
Pris Llawn £5; PTL Abertawe £1.60

 

Arddangosfa Dros Dro
Dydd Mawrth 19 – dydd Gwener 29 Gorffennaf
Dwlu ar y Geiriau a’r Ffotograffau
Theatr y Grand, Abertawe
Mae Canolfan Dylan Thomas wedi bod yn gweithio gyda chleifion anaf trawmatig i’r ymennydd i greu ffotograffau personol wedi’u hysbrydoli gan fywyd a geiriau Dylan Thomas. Gan ddefnyddio dyfyniadau o’i gerddi fel man cychwyn a cherdded yr un strydoedd, mae’r ffotograffau a gafodd eu creu yn ystod y sesiynau hyn yn adrodd straeon personol am wellhad y cyfranogwyr.
Am ddim
Ar agor dydd Llun – dydd Sadwrn, 9.30am – 8pm

Dyddiad
02 GOR - 17 MED
Lleoliad
Dylan Thomas Centre