“Burum sydd wedi mynd ati’n fwya’ bwriadol i greu jazz Cymraeg” Dylan Iorwerth (W Mail).
Mae Burum yn fand hollol unigryw yng Nghymru sydd yn chwarae alawon traddodiadol Cymraeg mewn arddull jazz. Mae cerddoriaeth y band yn gweu parch dwfn at alawon gwerin gwreiddiol gyda hyblygrwydd a deinameg byrfyfyrio jazz – perfformir alawon hyfryd, melancolaidd ochr yn ochr ag unawdau tanllyd a grŵfs dwfn.
Rhyddhaodd Burum eu pedwerydd albwm ‘Eneidiau’ yn 2022, a gafodd ei gynnwys mewn nifer o restrau ‘gorau o…’ ar ddiwedd y flwyddyn. Mae Burum wedi teithio Cymru amryw o weithiau ac wedi cynrychioli Cymru yn rhyngwladol yn India, Llydaw a’r UDA. Dyma bydd perfformiad cynta’ Burum yng Nhganolfan Taliesin. Dewch am noson unigryw o gerddoriaeth werin a jazz – cerddoriaeth Gymraeg ar ei orau.
“Amazing jazz… wonderful stuff.” Chris Philips, JazzFM
“Utterly, utterly beautiful.” Adam Walton, BBC Radio Wales