fbpx
BBC NOW Bartok’s Concerto for Orchestra
10 Mai

Mewn partneriaeth â Gŵyl Ryngwladol Abertawe a Choleg Celf Abertawe, PCYDDS.

Mae’n bleser gan Oriel Mission gyflwyno gwaith yr artist o Brooklyn Doug Ashford, yn ei arddangosfa unigol cyntaf yng Nghymru, wedi ei ddarparu mewn partneriaeth a Gŵyl Ryngwladol Abertawe.

Mae’r fideo animeiddiedig newydd yma Bunker 2, yn cyfuno darnau newyddion wedi eu dyddio o 1982 i 2016 gyda bandiau newidiol o liw. Mae llif y delweddau a’r metel du sydd yn eu hebrwng, yn cyflwyno cyd-ddealltwriaeth lethol ffaith a theimlad. Fel toddir y delweddau i’w gilydd, galluoga’r cysylltiad estheteg lliw i reddf gymryd drosodd, gan awgrymu’r posibilrwydd gall ein hemosiynau wrthsefyll diwylliant cyhoeddusrwydd ac ail-siapio amcanion datblygiad.

Dengys Bunker 2 yn gyntaf yn Mai 2017 yn arddangosfa MASS MoCA In the Abstract, sydd yn dod a grŵp o artistiaid amrywiol o bob oedran at ei gilydd, gyda gwaith a oedd yn cynrychioli ffordd alluog a chryf i abstractiaeth cyfoes. Artist, athro ac ysgrifennydd yw Doug Ashford sydd wedi ei selio yn Efrog Newydd. Cydymaith Addysg yn Undeb Cooper ydyw lle dysgai cerflunwaith, dylunio, ac astudiaethau amlddisgyblaethol ers 1989. Fe’i cynrychiolir gan Wilfried Lentz, Rotterdam.

Darn testun o draethawd llyfryn In the Abstract, gyda diolch i Susan Cross, Curadur, MASS MoCA.

 

Dyddiad
30 MED - 11 TACH
Lleoliad
Mission Gallery