MaeBridesmaids of Britainwedi cyrraedd!
Sioe hynod ddoniol sy’n addo bod yn noson allan wych i’r merched.
Becky yw’r forwyn briodas orffyddlon y mae ei bywyd yn datod wrth iddi arwain ei ffrind gorau, Sarah, ar daith wyllt i briodas.
Mae pethau’n mynd o chwith wrth i’r gystadleuaeth rhwng Becky a ffrind gorau newydd Sarah, Tiffany (mae hi mor brydferth, fyddech chi’n ei chasáu), dros bwy yw ffrind gorau’r briodferch, fygwth difetha’r broses o gynllunio’r briodas sydd wedi bod ar y gweill ers ysgol gynradd.
Paratowch eich hunain ar gyfer cystadlaethau dawnsio, canu a gweiddi ym ‘Mharti plu’r flwyddyn’… a gynhelir mewn carafán!
A fydd diwedd hapus i’r stori briodas hon, neu a fydd perthynas y ffrindiau gorau hyn yn chwalu’n llwyr?
Dewch â’ch ffrindiau a thaflwch eich gardas am noson allan hynod ddoniol yn llawn chwerthin a dagrau (a rhagor o chwerthin).