fbpx

Mae The Halfways yn ddrama deulu epig sy’n rhychwantu dros bedwar degawd, gan symud rhwng Llundain, Cymru, Efrog Newydd a Bangladesh. Dyma stori mamau a merched, tadau a merched, chwiorydd, gan archwilio perthyn, teulu a’r hyn sy’n gwneud maddeuant ac achubiaeth yn bosib.

‘I loved this sweeping family drama. Moving and unforgettable’ Sarah Morgan, awdur sydd wedi cyrraedd rhestr The Sunday Times o lyfrau poblogaidd.

Ynghylch The Halfways: Mae Nasrin a Sabrina yn ddwy chwaer sydd ar yr wyneb yn byw bywydau yn Llundain ac Efrog Newydd. Ar ôl i’w tad, Shamsur, farw’n sydyn, maent yn rhuthro i fod yn gwmni i’w mam yng nghartref a bwyty’r teulu yng Nghymru, ac yn dychwelyd yn gyndyn i fyd llethol eu plentyndod. Pan ddarllenir ewyllys Shamsur, datgelir cyfrinach ddinistriol sy’n herio popeth roedd pobl yn ei gredu a’i garu amdano. Yn ogystal, mae’n newid bywydau’r chwiorydd yn ddwfn, ac yn creu rhwyg diwrthdro yn y teulu …

Ganwyd Nilopar Uddin yn Swydd Amwythig i rieni o Fangladesh a oedd, fel y teulu ffuglennol yn The Halfways, yn berchen ar fwyty Indiaidd yng Nghymru ac yn ei gynnal. Mae wedi cael gyrfa lwyddiannus fel cyfreithiwr ym maes gwasanaethau ariannol yn Llundain ac Efrog Newydd ac mae’n un o ymddiriedolwyr iProbono, elusen sydd â chenhadaeth i alluogi pobl i arfer eu hawliau wrth geisio sicrhau cymdeithas deg. Mae gan Nilopar MA mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol y Ddinas (City University) lle dechreuodd weithio ar The Halfways. Mae ei straeon byrion wedi cael eu cyhoeddi mewn antholegau amrywiol, gan gynnwys Jamal’s Pen, a gyrhaeddodd restr fer Gwobr Stori Fer The Asian Writer. Mae’n byw yn Llundain gyda’i gŵr a’i dwy ferch.

Plîs nodwch fod: Cynhelir y digwyddiad yn Saesneg.

I gofrestru ar gyfer tocynnau am ddim: bit.ly/thehalfways

Dyddiad
25 EBR 2023
Lleoliad
Taliesin
Visit website