fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

‘Dyma i fywyd llawn, llond bol o fywyd… bywyd Dylan!’

A hwythau’n cynrychioli’r Prif Feirdd Roc a Rôl Go Iawn, mae Bob Dylan a Dylan Thomas hefyd yn cynrychioli dwy ochr yr un geiniog. Bob Dylan gynhyrchodd y gerddoriaeth! Dylan Thomas fu’n byw’r bywyd! Bu’r ddau’n perffeithio’r grefft o gyfansoddi llenyddiaeth. Gan ddod â dau o’r ysgrifenwyr mwyaf blaenllaw ar y ddau artist ynghyd am y tro cyntaf, mae The Two Dylans yn mynd â ni ar lwybr llenyddol a llythrennol a ddilynwyd gan Bob Dylan a Dylan Thomas.
Mae cynifer o gysylltiadau a chyd-ddigwyddiadau rhyfedd a gwych; hoffterau cyffredin a chysylltiadau sy’n cysylltu’r ddau eicon diwylliannol Bob Dylan a Dylan Thomas â’i gilydd. Mae’n cynnig tapestri cyfoethog – o chwedlau gwerin hynafol y Mabinogi i gerddi Cenhedlaeth y Bitniciaid; o Stravinsky i John Cale; o Johnnie Ray i Charlie Chaplin. Rimbaud a Lorca, Sergeant Pepper’s a ‘The Bells of Rhymney’, Nelson Algren a Tennessee Williams a llawer mwy.

Jeff Towns yw un o arbenigwyr mwyaf blaenllaw’r byd ar Dylan Thomas. Mae’n siaradwr, yn wneuthurwr rhaglenni dogfen, yn sylwebydd yn y cyfryngau, ac mae’n gweithio fel gwerthwr hen lyfrau yn nhref gartref y bardd yn Abertawe. Yn wreiddiol, adwaenid Jeff yn lleol ac yn fyd-eang dan yr enw Jeff the Books. Bellach fe’i hadwaenir yn annwyl ac yn broffesiynol fel The Dylan Thomas Guy. www.dylans.com

Mae’r cyd-awdur K G Miles yn awdurdod blaenllaw ar Bob Dylan ac yn gyd-guradur yn Ystafell Dylan yng Nghlwb Troubadour yn Llundain. Trwy ysgrifennu, podlediadau a theithiau Dylan, mae K G Miles yn gallu rhannu ei wybodaeth a’i brofiad o Bob Dylan â’r rhai sy’n dwlu ar gerddoriaeth ym mhedwar ban byd. Twitter: @barberville

Dyddiad
24 TACH 2022
Lleoliad
Taliesin Arts Centre
Visit website