Y bwlch rhwng sut rydyn ni’n dychmygu’n bywydau a sut maen nhw mewn gwirionedd yw pwnc sioe newydd Bill, LIMBOLAND. Gyda deallusrwydd a meddwl craff, mae’n adrodd straeon am ganfod ei hun yn y lle hanner ffordd hwn. O’i deithiau byd-eang di-rif, mae’n adrodd saga hynod ddigrif taith teulu drychinebus i Norwy i weld Goleuni’r Gogledd. Mae’n grwgnach am fyd nad yw’n bodloni’n disgwyliadau ac yn ystyried gwir natur hapusrwydd. A fyddai dim sioe gan Bill Bailey’n gyflawn heb gerddoriaeth, felly cawn ni fersiwn Bill o’r gân brotest, baled canu gwlad a gwerin galonrwygol wedi’i chwarae ar Feibl, a fersiwn eithriadol o anobeithiol o ‘Pen-blwydd Hapus’.
21 Mehefin 2016 – 22 Mehefin 2016
Tocynnau: £25.50
Mae pob tocyn yn cynnwys cyfraniad 50c at y gronfa adnewyddu.