Ymunwch â’r cast am ddwy awr o oreuon Broadway a’r West End gyda chaneuon sydd wedi peri i gynulleidfaoedd i ddychwelyd dro ar ôl tro am 25 o flynyddoedd. Dewch i fwynhau caneuon o The Phantom of the Opera, Jesus Christ Superstar, West Side Story, The Lion King, Blood Brothers, Miss Saigon, Hamilton ac eraill, gyda’r diweddglo trawiadol o Les Misérables yn uchafbwynt ar y cyfan!
Mae’r gyngerdd yn cynnwys David Fawcett (Valjean) Andy Reiss (Enjolras & Chyfarwyddwr Preswyl ar gyfer Taith Genedlaethol Les Miserables) Katie Leeming (Eponine) a Poppy Tierney (Cosette), ynghyd â band byw sy’n cyfleu naws offeryniaeth wreiddiol y sioeau cerdd dethol.
Hyd heddiw, chwaraeir a chenir pob nodyn cerddorol yn fyw – peth prin yn wir. Mae Beyond the Barricade yn rhoi triniaeth fformat cyngerdd feiddgar i ganeuon sioeau cerdd – ond gyda’r argyhoeddiad a’r bwriad i gyflwyno’r deunydd fel pe bai’r gynulleidfa’n gwylio’r gwreiddiol.