Jaime Martin conductor | arweinydd
Ben Goldscheider French horn | corn Ffrengig
Y flwyddyn newydd hon, ymhyfrydwch yn y cyfle i glywed premiere byd gan ein Cyfansoddwr Cysylltiedig, Gavin Higgins, sydd newydd ennill gwobr RPS 2023 am ei Goncerto Grosso ar gyfer Band Pres a Cherddorfa. Wedi’i gyfansoddi ar gyfer ein hunawdydd heddiw, Ben Goldscheider, bydd yn sicr o fod yn berfformiad bythgofiadwy na ddylid ei golli.
Mae gorfoledd a ffresni’r gwanwyn yn treiddio drwy Ail Symffoni Brahms. O’i gymharu â’i symffoni gyntaf, a gymerodd 20 mlynedd i’w chwblhau, cafodd y symffoni hon ei hysgrifennu’n rhyfeddol o gyflym, ac mae’r campwaith hwn ymhlith y mwyaf poblogaidd o’r holl symffonïau rhamantus… ond i ddechrau, pa gymar gwell iddi na Galargan Parry i Brahms? Ac, i arwain, mae’n bleser gennym groesawu’r hynod dalentog Jaime Martin yn ôl.
Tocynnau £12.00 – £20.00