fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Ryan Bancroft arweinydd
Alisa Weilerstein soddgrwth

Mae Alisa Weilerstein, yr offerynnydd soddgrwth byd-enwog, yn ymuno â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yng nghyngerdd olaf y tymor ar gyfer un o goncerti soddgrwth mwyaf y byd. Wrth i Dvořák ail-fyw ei fywyd llawn mwynhad ond hefyd yn llawn colled, disgleiria arbenigedd alawol, egni bywiog a chariad at gerddoriaeth gwerin ei famwlad yn ei goncerto soddgrwth rhagorol. Yn yr un modd, mae dyfeisiadau cerddorol greddfol, offeryniaeth gyfoethog, ac archwiliad o’r gadeirlan “fel drws symbolaidd i mewn ac allan o’r byd hwn” yn llwyfan ar gyfer awyrgylch breuddwydiol, synfyfyriol, arallfydol. Mae hyn yn ymledu drwy waith medrus Higdon o daith sonig drwy ofod cysegredig ac i fyny i’r nefoedd – Blue Cathedral.

Dychmygwch hyn – Tachwedd 1934, yn Neuadd Carnegie a symffoni newydd sbon yn cael ei chyflwyno, gan dderbyn cymeradwyaeth frwd a llawer o bobl yn moesymgrymu i’r cyfansoddwr diymhongar. Y cyfansoddwr hwnnw oedd William Dawson, Americanwr Affricanaidd 35 oed, a oedd wedi ffoi o’i gartref yn 13 oed er mwyn gwireddu ei freuddwyd o astudio cerddoriaeth; a’r darn oedd… y Negro Folk Symphony. Dechreuodd Dawson gyfansoddi cerddoriaeth synhwyrus a gonest a oedd “yn sicr ddim yn waith gan ddyn gwyn” a chafodd ei ysbrydoli gan “gerddoriaeth werin negroaidd” pan oedd yn blentyn bach. Mae’r symffoni hon, sydd wedi’i llunio’n fedrus ac yn llawn emosiwn, yn athrylith pur, a phwy well i arwain y diweddglo cyffrous hwn i’r tymor na’n Prif Arweinydd, Ryan Bancroft.

Tocynnau £12.00 – £20.00

Dyddiad
07 MEH 2024
Lleoliad
Brangwyn Hall
Price
12.00
Archebwch docynnau