Peidiwch â cholli’r Band Mawr hwn gydag 17 o gerddorion!
Cymysgedd electrig o Driawd Jazz Dave Cottle gyda rhai o gerddorion jazz a sesiwn gorau Cymru a cherddorion gwadd rhyngwladol/o’r DU a fydd yn perfformio yn ystod yr ŵyl eleni.
Bydd y Band Mawr yn perfformio cerddoriaeth band mawr jazz boblogaidd gan bobl fel Cerddorfa Thad Jones a Mel Lewis, Gordon Goodwin, Bill Holman, Ted Heath, Basie a mwy.
Gallwch ddisgwyl gwaith ensemble gwych gan unawdwyr jazz arbennig a bydd y gantores Sarah Meek yn ychwanegu caneuon gwych gan Ella Fitzgerald, Peggy Lee, Diana Krall a mwy.
Mae Cyngor Abertawe’n falch o gyflwyno Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe mewn partneriaeth â Chlwb Jazz Abertawe.
Gweld digwyddiadau Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe eraill yma