Yn ystod un o’i gyfweliadau olaf ym 1970 gofynnodd Jimi Hendrix sut fyddai ei gerddoriaeth yn swnio yn ystod y degawd newydd. Ei ateb oedd “Hoffwn gael band mawr i gyfansoddi ar eu cyfer eu harwain.” Ar y pwynt hynny, roedd wedi bod yn trafod prosiect gyda’r trefnydd cerddoriaeth Gil Evans, ond bu farw ar 18 Medi, dau ddiwrnod ar ôl ei ymddangosiad cyhoeddus olaf yn Ronnie Scott’s lle aeth i chwarae gydag Eric Burdon’s War
Yn 2018 roedd y gitarydd Denny Ilett, cefnogwr gydol oes Hendrix, wedi ffurfio Band Mawr Electric Lady i ddathlu 50 o flynyddoedd ers i Jimi ryddhau’r campwaith Electric Ladyland ym 1968. Yna, roedd y grŵp wedi recordio a rhyddhau eu fersiwn o Electric Ladyland, cymysgedd unigryw Hendrix o gerddoriaeth blŵs, roc, jazz a seicedelia.
Mae Band Mawr Electric Lady yn dehongli cerddoriaeth Jimi Hendrix gyda phŵer, angerdd a pharch gan ein hatgoffa o allu Jimi fel cyfansoddwr a cherddor, etifeddiaeth a gadawodd ymhell y tu hwnt i’r syniad poblogaidd o arwr y gitâr. Mae pob aelod o’r band wedi cael eu dewis am eu gallu fel cerddorion mewn grŵp ac fel unigolion. Fel yr oedd Jimi ei hun yn ddweud… gofalwch am eich clustiau!
Mae Cyngor Abertawe’n falch o gyflwyno Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe mewn partneriaeth â Chlwb Jazz Abertawe.
Gweld digwyddiadau Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe eraill yma