Elusen dan arweiniad gwirfoddolwyr yw cangen Cymdeithas Awtistig Genedlaethol Abertawe, sy’n cefnogi pobl awtistig o ardal Abertawe a’u teuluoedd. Maent yn trefnu digwyddiadau a gweithgareddau gwahanol ar gyfer pobl ag awtistiaeth a’u teuluoedd/gofalwyr a gynhelir ar draws yr ardal, gan gynnwys boreau coffi, cyrsiau a gweithdai ar thema awtistiaeth, sgyrsiau am ddeall awtistiaeth i fusnesau, sefydliadau ac elusennau, digwyddiadau awtistiaeth trwy gydol y flwyddyn, a llawer mwy.
Cynhelir ein horiau tawel ar gyfer 2024 ar y dyddiadau canlynol:
· 18 Mai
· 15 Mehefin
· 13 Gorffennaf
· 21 Medi
· 19 Hydref
· 16 Tachwedd
· 14 Rhagfyr (Digwyddiad arbennig y Nadolig)
Am ragor o wybodaeth, neu i gadw lle yn un o’r sesiynau hyn, cysylltwch â NAS Abertawe trwy eu tudalen Facebook
Gweld digwyddiadau eraill yn Sw Trofannol Plantasia yma