fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

7:00 pm – 8:45 pm

Dewch i brofi cerddoriaeth a dawns fflamenco fywiog a dilys gan Gwmni Flamenco arbennig Daniel Martinez. Enillodd eu cynhyrchiad ‘Art of Believing’ wobr fawreddog Herald Angel yn ddiweddar ac mae’n llawn cerddoriaeth fflamenco anhygoel, gan ddod ag angerdd a thân Andalucia i Abertawe.

Mae’r cyfansoddwr a’r gitarydd fflamenco, Daniel Martinez, yn cyflwyno ei gynhyrchiad cerddoriaeth unigryw, lle bydd y gynulleidfa’n mwynhau amrywiaeth gyfoethog o arddulliau fflamenco; o emosiwn dwys ‘Seguiriya’ i synau hapus ‘Alegria’. Mae’r sioe’n cynnwys grŵp eithriadol o gerddorion; cantorion fflamenco, gitaryddion, gitarydd bas, feiolinydd a dawnsiwr yn ymuno â Daniel mewn perfformiad fflamenco pwerus y mae’n rhaid i bawb ei weld sy’n llawn angerdd a dilysrwydd.

Perfformiwyd ‘Art of Believing’ am y tro cyntaf yn Theatr Frenhinol y Lyceum yng Nghaeredin ym Mis Hydref 2017 ac o ganlyniad i lwyddiant anhygoel y sioe  mae Cwmni Flamenco Daniel Martinez yn teithio’r wlad ar hyn o bryd, gan lenwi theatrau, gwyliau gitâr a chelf ar draws rhai o ddinasoedd mwyaf y DU.

Mae ‘Art of Believing’ yn addo cynnig perfformiad cofiadwy, gan ddod â blas o fflamenco bûr a dawn gerddorol i Neuadd Brangwyn Abertawe. Peidiwch â cholli’r profiad bywiog a chyffrous hwn o’r fflamenco.

Tocynnau: £20.00

Dyddiad
06 CHWE 2022
Lleoliad
Brangwyn