Grwp Celf y Mwmbwls a Theatr y Grand
Arddangosfa’r Grand
12 Tachwedd – 30 Tachwedd 2018
Lefelau 1 a 2 a’r Ystafell Wen
Theatr y Grand Abertawe
Adain y Celfyddydau, Stryd Singleton, Abertawe SA1 3QJ
Mynediad am ddim
Arddangosfa o ddarluniau a phaentiadau sydd wedi’u hysbrydoli gan Flwyddyn y Môr, ac sy’n ddathliad o arfordir prydferth Cymru ynghyd â thestunau eraill. Mae’r gwaith celf yn cynrychioli amrywiaeth cyfoethog o waith gan grŵp o artistiaid talentog dan arweiniad y tiwtor a’r artist proffesiynol Zoe James-Williams yn Adain y Celfyddydau, Theatr y Grand, 12-30 Tachwedd 2018.
Bydd amrywiaeth eang o destunau, o dirluniau lleol i gelf ffigurol mewn cyfryngau cymysg. Bydd yn arddangos amrywiaeth cyffrous a chwaeth eclectig y grŵp. Bydd y gwaith celf fforddiadwy hwn yn anrheg unigryw ar gyfer y Nadolig, am ei fod yn gwneud i rhywun feddwl am gartref neu’n dwyn i gof rhyw atgof arbennig.
Yr hyn sydd wedi ysbrydoli gwaith y grŵp celf yw rhyfeddod a harddwch mawreddog Cymru, “Copaon tolciog yn guddiedig gan dirwedd hudolus, cartref i gestyll theatraidd, cymoedd gwyrddion a morlin trawiadol.” Rough Guides
Pleser o’r mwyaf yw bod yr awdur a’r newyddiadurwr celfyddydol Mark Rees yn agor yr arddangosfa’n swyddogol ddydd Gwener, 16 Tachwedd ac mewn cysylltiad â Blwyddyn y Môr byddwn hefyd yn cefnogi Bad Achub y Mwmbwls y noson honno trwy gynnal raffl.
Am wybodaeth bellach, cyfweliadau a delweddau, cysylltwch â Zoe James-Williams yn info@zoejameswilliams.com neu ffoniwch 01792 642164