fbpx
Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2024
15 - 17 Mehefin

YN YSTOD Y DYDD: PLANETARIWM

DEWCH I MEWN I’N PLANETARIWM YN NEUADD BENTREF PORTH EINON I DDARGANFOD Y CYTSER, CLYSTYRAU O SÊR, NIFYLAU A GALAETHAU – BYDDWN YN EU HARCHWILIO I GYD.
BYDD Y GWEITHDY HWN YN DARPARU AMGYLCHEDD LLAWN YSBRYDOLIAETH Y GALL MYNYCHWYR ARCHWILIO RHYFEDDODAU AWYR Y NOS DRWYDDO. BYDD Y DIGWYDDIAD RHYNGWEITHIOL HWN A ARWEINIR GAN ASTROLEGWR YN EDRYCH AR SUT MAE’R AWYR WEDI NEWID DROS YR OESAU A SUT MAE’R TYMHORAU A LLYGREDD GOLAU YN EFFEITHIO ARNO.
BYDD Y GWEITHDY A FYDD YN CWMPASU POPETH, O FYTHOLEG GELTAIDD I ASTROFFISEG, YN ADDAS I BOB OED – PLANT, OEDOLION A PHAWB ARALL.

MAE’N RHAID I BLANT DAN 18 OED FOD YNG NGHWMNI OEDOLYN
NI FYDD UNRHYW LUNIAETH AR GAEL YN Y LLEOLIAD, FELLY DEWCH Â CHINIO PECYN NEU FYRBRYD OS OES ANGEN
CYFEIRIADAU
GYRRU
ANELWCH AM FAES PARCIO PORTH EINON, PORTH EINON SA3 1NN. 15 LLE I’R ANABL, 2 LE GWEFRU CERBYDAU TRYDAN, AR AGOR 8.00AM – 9.00PM, TALU AC ARDDANGOS (£1.50 AM 3 AWR)

CLUDIANT CYHOEDDUS
MAE BYSUS 115, 117 AC 118 I GYD YN STOPIO YM MHORTH EINON

BWYTY LLEOL
GALWCH HEIBIO THE SHIP INN AND SMUGGLERS BEACH BAR AND KITCHEN’ I GAEL DIOD A THAMAID I’W FWYTA.

Archebwch yma