Mae Gŵyl Ymylol Abertawe yn dychwelyd fis Hydref eleni, ac mae Cyngor Abertawe wedi trefnu darllediad arbennig am ddim o’r ffilm anhygoel, Avengers: Endgame ar y Sgrîn Fawr, Sgwâr y Castell, a llawer mwy ar gyfer y teulu cyfan! Gyda bwyd stryd, adloniant a’r cyfle i gwrdd â’ch hoff arwyr yn bersonol, bydd hi’n noson i’w chofio yn Sgwâr y Castell. Ac yn bwysicaf oll – peidiwch ag anghofio gwisgo i fyny fel eich hoff arwr!
Cewch weld darllediad am ddim o un o’r ffilmiau mwyaf mewn hanes, Avengers: Endgame. Ar ôl digwyddiadau dinistriol Avengers: Infinity War (2018), mae’r bydysawd yn adfeilion oherwydd ymdrechion y Mad Titan, Thanos. Gyda chymorth y cynghreiriaid sy’n weddill, rhaid i’r Avengers ymgynnull unwaith eto er mwyn dadwneud gweithredoedd Thanos a dadwneud anhrefn y bydysawd, ni waeth pa ganlyniadau a all fod ar y gweill, ac ni waeth pwy sy’n eu hwynebu
Eisteddwch mewn cadair gynfas, mwynhewch y sinema awyr agored a gwyliwch sut mae’r arwyr yn ymladd y frwydr fwyaf iddynt ei hwynebu erioed – ac mae’r cyfan AM DDIM.
Abertawe, peidiwch ag ofni, bydd pob un o’ch hoff archarwyr yn Sgwâr y Castell o 4pm! Byddant yn cadw’r byd yn ddiogel, yn cadw llygad barcud am bobl ddrwg – ac efallai bydd ganddyn nhw gyfle i dynnu eu llun gyda chi hefyd! Cewch gip ar Spiderman, Aquaman, Ironman, Captain America a llawer mwy yn ystod y digwyddiad, a pheidiwch ag anghofio dod wedi gwisgo fel eich hoff archarwr er mwyn cael cyfle i ennill y gystadleuaeth ar gyfer y wisg orau!
Wrth i chi ymlacio a gwylio’r Avengers yn ceisio achub y bydysawd ar y Sgrîn Fawr, gallwch fwynhau pryd a fydd yn tynnu dŵr o’ch dannedd o’r Farchnad Bwyd Stryd! Yn cynnwys rhai o’r masnachwyr bwyd stryd lleol gorau ac yn cynnig popeth, o fwyd poeth ac oer i fwyd melys a sawrus, rydych yn sicr o ddod o hyd i rywbeth i’w fwynhau. A chyda fasnachwyr yn bresennol, bydd digon o fwyd i lenwi bol yr Incredible Hulk!
Mae’r rhestr lawn o fasnachwyr eto i’w chwblhau, cadwch lygad i weld y rhestr derfynol.
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o Ŵyl Ymylol Abertawe 2019, sydd hefyd yn cynnwys Gŵyl Ymylol Abertawe a CGG y BBC: Rhestr Chwarae Glasurol: Yn fyw.