Ar ôl iddo ymddangos ar y teledu ar raglen The Russell Howard Hour, cefnogodd Andrew Russell Howard ar ei daith genedlaethol enfawr, gan gynnwys pedair sioe yn Arena Abertawe a chwe sioe yn The London Palladium.
Mae popeth yn cael ei gymryd yn ormod o ddifrif nawr. Os mai dyletswydd Andrew yw nodi pa mor wirion yw’r cyfan yna mae’n fodlon cymryd y rôl honno. O hil a chrefydd i hysbysebion ar gyfer diaroglyddion, cael diagnosis o apnoea cwsg, a phobl sydd â baner ar eu tŷ.
Mae Andrew wedi cefnogi Russell yn flaenorol yn Stadiwm Pêl-droed Ashton Gate ym Mryste, ac mae hefyd wedi cefnogi Rhod Gilbert, Rob Brydon, Brian Regan o America a Michelle Wolfe ar eu hunig sioeau yn Llundain, yn ogystal â Michael McIntyre ar daith arena gyfan gan gynnwys Wembley a’r O2. Mae wedi ysgrifennu ar gyfer y sioeau teledu Jon Richardson: Ultimate Worrier ac 8 Out of 10 Cats Does Countdown.