Ganwyd Euros Lyn yng Nghaerdydd a chafodd ei fagu yng Ngwynedd ac yn Abertawe. Dechreuodd ei yrfa yn cyfarwyddo Pam Fi Duw a Belonging ac ef oedd cyfarwyddwr sawl pennod o Dr Who a Torchwood, gan gynnwys y bennod a enillodd wobr Hugo, The Girl in the Fireplace. Mae ei waith yn cynnwys Sherlock, Broadchurch, Black Mirror, Happy Valley, Dream Horse ac Heartstopper, sydd wedi ennill llu o wobrau BAFTA ac Emmy rhyngddynt. Yn 2015, enillodd Wobr Siân Phillips BAFTA Cymru am ei gyfraniad arbennig at fyd ffilm a theledu. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar ffilm dywyll a digrif am sugnwyr gwaed, sy’n seiliedig ar y nofel The Radleys gan Matt Haig, a fydd ar y sgrîn fawr yn 2024.
Dydd Iau 14 Mawrth
7pm – 8pm (bydd derbyniad o 6:30pm)
Y Neuadd Fawr, Campus y Bae, Prifysgol Abertawe
*Sylwer: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg