fbpx
Sioe Awyr Cymru 6 & 7 Gorffennaf 2024
Gweld Mwy

 
Bydd y cerddorion o fand Strictly Come Dancing y BBC yn chwarae cerddoriaeth Earth, Wind and Fire.
 
Ffurfiwyd All Fired Up gan Tommy Blaize a Derek Green, dau o ganwyr gorau’r DU.

Karlos Edwards – Offeryn taro/Llais
Andrew Small – Drymiau
Trevor Barry – Bas
Tim Cansfield – Gitâr
Tony Remy – Trwmped
David Arch – Bysellfyrddau
Jody Linscott – Offerynnau taro
Peter J Murray – Bysellfyrddau
Tom Walesh – Trwmped
Chris Storr – Trwmped
Paul Booth – Sacsoffon
Barnaby Dickinson – Trombôn

“Ar ôl llawer o flynyddoedd yn perfformio cerddoriaeth ‘Earth, Wind and Fire’ mewn bandiau teyrnged eraill, mae’n amser i ni wneud hyn droson ni’n hunain” meddai’r canwyr Tommy Blaize a Derek Green. Rydym wedi mwynhau’r math hwn o gerddoriaeth ers y tro cyntaf i ni ei chlywed, mae’n golygu cymaint i ni ac felly rydym am wneud hyn am y rhesymau iawn. Rydym wedi bod yn trafod hyn am flynyddoedd, ac o’r diwedd, ychydig dros flwyddyn yn ôl penderfynom ddechrau rhoi popeth at ei gilydd. Roedd hi’n bwysig cael cymysgedd amrywiol o chwaraewyr offerynnau. Rydym wedi ffonio ffrindiau rydym wedi gweithio gyda hwy yn y gorffennol ac mae pawb, heb betruso, wedi dweud “Dw i am fod yn rhan o hyn, rho wybod i mi le a phryd.

“Daethom at ein gilydd gydag adran rhythm fach yn cynnwys Andrew Small (drymiau), Tony Remy (gitâr), Dave Arch a Pete Murray, pâr poblogaidd a medrus (bysellfyrddau), Karlos Edwards (offeryn taro a llais) a Trevor Barry (bas) yn stiwdio’r Ritz ym mis Chwefror 2015 a chawsom amser da iawn. Y diwrnod hwnnw, penderfynom i beidio â chyfaddawdu caneuon llon a phwerus Earth, Wind and Fire, bydd y band hwn yn chwarae’r caneuon hyn gyda’r parch a’r brwdfrydedd y maent yn eu haeddu.

“Penderfynom yn fuan iawn fod angen gitarydd arall arnom, a dim ond un dyn a ddaeth i’r cof, Tim Cansfield, a’r offerynnwr taro, Jody Linscott! Roeddem yn ymarfer eto ym mis Mehefin mewn lle yn Mill Hill ac roeddem yn gwybod ein bod wedi dod ar draws rhywbeth arbennig!

“Nawr mae angen ein hadran corn ein hunain arnom i efelychu sŵn nerthol y Phenix Horns. Galwyd ar y trympedwr pwerus Tom Walsh; yna cyfeiri ni at Paul Booth am sacsoffonau alto a thenor er mwyn ymuno â brenin y cwl, Chris Storr ar y trwmped a’r ‘flugelhorn’ a dyn tawel y trombôn, Barnaby Dickinson, fel darnau olaf y pos. Trefnom i roi popeth at ei gilydd ym mis Chwefror 2016 yn stiwdios ymarfer John Henry.

“Roedd y newyddion trasig am farwolaeth Maurice White yn sioc i’r byd ac i bawb a oedd yn ymwneud â’n band. Gyda’n ffrindiau yn ein gwthio rhywfaint, penderfynom nad oedd ffordd well o anrhydeddu Reese na chwarae ei gerddoriaeth.

“Rydym wedi dod ynghyd i berfformio a dathlu cerddoriaeth Earth, Wind & Fire. Ni allem aros, a dweud y gwir, rydym yn gyffrous iawn! Rydym yn edrych ymlaen yn arw i weld perfformiad All Fired Up!

“Bydd y caneuon rydym am eu perfformio yn cynnwys… After The Love Has Gone, Brazilian Rhyme, Boogie Wonderland, Can’t Hide Love, Can’t Let Go, Fantasy, Getaway, Got To Get You Into My Life, In The Stone, Jupiter, Let’s Groove, Rock That, Reasons, Saturday Nite, September, Serpentine Fire, Shining Star, Sing A Song, Star a That’s The Way To The World.”
 

8.45pm
Tocynnau: £25
Canolfan Dylan Thomas
 

Canolfan Dylan Thomas:
 

Dyddiad
18 MEH 2017
Lleoliad
Dylan Thomas Centre