fbpx
Sioe Awyr Cymru 6 & 7 Gorffennaf 2024
Gweld Mwy

Byddwch yn barod i glywed Aled Jones mewn ffordd na glywsoch ei debyg o’r blaen. Dyma’r bachgen â’r llais soprano a swynodd y byd gyda’i lais angylaidd. Aled oedd y seren wreiddiol glasurol, ac mae wedi gwerthu dros saith miliwn o albymau. Gwnaeth ei recordiad o ‘Walking in the Air’ o’r ffilm animeiddiedig ‘The Snowman’ ei sefydlu fel enw cyfarwydd ac mae wedi dod yn rhan annatod o ddathliadau’r genedl.

Mae’n gyfforddus ar y llwyfan glasurol neu’n serennu mewn cynyrchiadau theatr gerddorol yn y West End yn Llundain, ac mae ei rolau’n cynnwys y brif rôl yn ‘Joseph and the Amazing Technicolour Dreamcoat’, ‘Chitty Chitty Bang Bang’ a ‘White Christmas’ gan Irving Berlin. Mae’r cantor Aled yn boblogaidd ar draws y byd ac mae wedi perfformio mewn rhai o leoliadau mwyaf eiconig y byd, gan gynnwys Neuadd Frenhinol Albert yn Llundain a Thŷ Opera Sydney.

Roedd yn un o ffefrynnau’r Teulu Brenhinol, a gwnaeth berfformiad breifat ar gyfer y Brenin Charles III ym Mhalas Kensington. Mae’n ddarlledwr teledu ac yn gyflwynydd radio arobryn sydd wedi cyfweld â channoedd o sêr enwog dros y blynyddoedd. Mae’n cyflwyno Songs of Praise y BBC a’i sioeau bore ei hun ar ddydd Sadwrn a dydd Sul ar Classic FM. Nawr, ar ôl 40 blynedd yn y maes, mae’n edrych yn ôl dros yrfa ragorol gyda sioe un dyn a fydd yn cynnwys cerddoriaeth newydd, straeon dros y blynyddoedd a’i hanes ei hun yn ei eiriau ei hun am y tro cyntaf. Byddwch yn barod am Full Circle.

Archebwch tocynnau

£72.00 Cwrdd a Chyfarch
£50.00 VIP
£30.00 Seddi

Dyddiad
28 Mai 2025
Lleoliad
Neuadd Brangwyn
Archebwch docynnau