fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Mae pumawd bop caled diwyro hynod boblogaidd Alan Barnes a Bruce Adams wedi bod yn perfformio ers 28 mlynedd! 

Gyda repertoire o flynyddoedd clasurol bop a phwyslais ar hygyrchedd a hiwmor da, byddant yn agor Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe eleni gydag argyhoeddiad y dylai jazz wneud i chi fod eisiau dawnsio.

Mae Alan Barnes yn berfformiwr rhyngwladol cynhyrchiol, yn gyfansoddwr, yn drefnydd, yn arweinydd band ac yn unawdydd teithiol sydd wedi bod yn llwyddiannus tu hwnt yng nghategorïau’r sacsoffon a chlarinét yng ngwobrau jazz Prydain drwy gydol y 1990au a thu hwnt. Mae e’ yn aml i’w weld yn arwain mewn gwyliau jazz mawr yn ogystal â pherfformio.

Mae e’ wedi recordio dros ddeng albwm ar hugain fel arweinydd a chyd-arweinydd yn unig. Mae rhestr ei sesiynau a’i waith cyfeilio yn cynnwys Bjork, Bryan Ferry, Michel LeGrande, Clare Teale, Westlife, Jools Holland a Jamie Cullum. Mae e’ wedi teithio a pherfformio dros gyfnodau preswyl gyda ffigyrau amrywiol a heriol â Ruby Braff, Freddie Hubbard, Scott Hamilton, Warren Vache, Ken Peplowski, Harry Allen a Conte Candoli.

Bruce Adams yw un o berfformwyr mwyaf dramatig ac ysgogol y sîn jazz – mae ystafell fandiau gyda’r gŵr o Glasgow yn bresennol ynddi yn lle hapus a therfysglyd!

Dechreuodd Bruce ei yrfa gerddorol ym myd gwaith masnachol cadarn – ar longau mordeithiau, mewn neuaddau dawns, neuaddau cerdd bu hyd yn oed yn cefnogi arwyr y byd comedi fel Tony Hancock a Freddie Starr.

Mae galw mawr wedi bod am ei ystod a’i bŵer trawiadol ar y trwmped ac mae Bruce wedi gweithio’n aml fel unawdydd gwadd arbennig gyda Cherddorfa Radio’r Alban a Band Mawr y BBC.

Mae Triawd Clwb Jazz Abertawe yn dri cherddor jazz hynod brofiadol sydd wedi darparu cyfeiliant i gannoedd o artistiaid rhyngwladol yn y clwb ers dros ugain mlynedd. Dave Cottle (piano), Alun Vaughan (bas) a Paul Smith (drymiau).

Dyddiad
23 MEH 2022
Lleoliad
The Garage