fbpx
Sioe Awyr Cymru 6 & 7 Gorffennaf 2024
Gweld Mwy

 

Agoriad Mawreddog Glynn Vivian – Sadwrn 15 Hydref

Bydd Oriel Gelf eiconig Glynn Vivian yn Abertawe’n ailagor i’r cyhoedd ddydd Sadwrn 15 Hydref yn dilyn prosiect ailddatblygu ac adfer gwerth miliynau o bunnoedd.

Bydd ardaloedd newydd ar gyfer darlithoedd, gwaith cadwraeth arbenigol, arddangosiadau teithiol ac arddangos casgliadau ymysg y gwelliannau y gall ymwelwyr edrych ymlaen at eu gweld.

Bydd estyniad o’r safon orau’n cysylltu â’r adeiladau hanesyddol, gan gynnwys oriel restredig gradd dau sy’n dyddio o 1911, sydd wedi elwa o waith adfer cyflawn a gwelliannau i gyfleusterau a mynediad. Bydd hyn i gyd yn sicrhau bod Oriel Gelf Glynn Vivian yn addas ar gyfer yr 21ain ganrif.

Mae storfa gasglu newydd ar gyfer gwaith celf hefyd wedi’i hychwanegu, yn ogystal â mynedfa gwbl hygyrch sy’n golygu y bydd mwy o bobl nag erioed yn gallu cael mynediad gwell i’r gweithiau celf.

.

Glynn Vivian:

Dyddiad
15-16 HYD
Lleoliad
Glynn Vivian